BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llais Ardudwy
Mai Jones Ymddeol ar ôl 34 mlynedd
Chwefror 2005
Ar ôl 34 flynyddoedd mae Mai Jones wedi penderfynu rhoi'r ffidil yn y to ac ymddeol.
Does neb bellach yn Ysgol Ardudwy yn cofio'r ysgol hebddi. Dechreuodd gyrfa Mai Jones yn Ysgol Ardudwy yn Ionawr 1971 gyda'i phenodiad yn ysgrifenyddes i'r prifathro Mr John Owen Jones ac wedyn i Mr Cyril Jones.

Wedi 18 mlynedd yn y swydd yma fe'i penodwyd yn Swyddog Gweinyddol yn 1989. Mae hi wedi gweithio gyda'i thrydydd prifathro, Mr Tudur Williams ers 14 mlynedd.

Cyn ymuno â staff Ysgol Ardudwy bu Mrs Mai Jones adre'n magu'r plant, Hywel a Rhian a chyn hynny treuliodd gyfnod yng Nghaerdydd yn gweithio i'r BBC.

Bydd Ysgol Ardudwy yn lle rhyfedd iawn heb Mai Jones. Rydym wedi hen arfer troi ati mewn cyfyng gyngor a hithau'n dod i'r adwy bob tro. Byddwn i gyd yn ei chofio am ei mynnych gymwynasau, ei charedigrwydd a'i gwasanaeth di-flino i'r ysgol dros y blynyddoedd.

Rydym i gyd yn dymuno ymddeoliad hapus i chi Mai ac y byddwch chi a Mathew yn cael blynyddoedd lawer o fwyniant a phleser.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy