Ym Mryn Deiliog y bu iddi dreulio ei phlentyndod. Merch.i Arnold a Lowri Watts oedd Lorna a chwaer i Hefina, Vernon a'r diweddar Peter a Derek.
Cafodd blentyndod hapus ac roeddwn yn ei chwmni yn gyson yn ystod ein blynyddoedd yn yr ysgol fach yn Llanbad. Cawsom ein gwahanu ychydig pan aeth Lorna i Y sgol Ardudwy flwyddyn o'm blaen. Gan fod Lorna wedi ei geni ym mis Awst a minnau ym Medi, roedd hi yn cael y fraint o fynychu'r 'ysgol fawr' o'm blaen i. Buan iawn y bu inni ddod yn ôl i gwmni ein gilydd yn ystod gyda'r nosau ac wedyn ar ôl gadael.
Ar ôl gadael yr ysgol aeth Lorna ymlaen i weithio fel gweinyddes i Faes Artro. Yn 1978 penderfynodd y ddwy ohonom gychwyn ar ein hantur fawr a gadael yr hen wlad a symud i fyw i Lundain. Gyda'r ddwy ohonom brin yn ddeunaw oed roedd meddwl am hyn yn wefr eithriadol. Yn amlwg ni fuasai ein bywydau unrhyw beth tebyg yn 'Y Mwg' ac oedd yng nghefn gwlad Cymru.
Gan fod Hefina Pen Bont eisoes yn howsgipar mewn clwb boneddigion yn St James' bu inni fod yn hynod lwcus o gael ein cyflogi ganddi a chael 'byw i mewn' gyda chyflog yn ychwanegol i hyn i gyd. Er mai bychan iawn oedd y cyflog, ni fu inni lwgu a chawsom hwyl iawn yno.
Roedd y gwaith yn galed ar adegau gyda'r glanhau a gweinyddu.
Tra yn y cyfnod yma o'i bywyd bu iddi gyfarfod â Chris a daeth y ddau i Feirionnydd i briodi ac yna i ffwrdd a hwy i'r Almaen. Cyn i Gareth - ei mab - gael ei eni, aeth i fyw i Firmingham gyda'i gŵr. Yn 1985 ganwyd iddynt ferch, Sarnantba, a daeth y teulu yn ôl i Lanbad i fyw.
Roedd Lorna yn ferch oedd yn hoff iawn o gerdded, ambell waith byddai yn cychwyn yn y bore, heibio Bryn Deiliog ac i fyny am y Moelfre ac i gyfeiriad Drws Ardudwy. Byddai ganddi ei phecyn bwyd gyda hi a byddai yn cerdded am oriau. Cerddodd unwaith o Aberdaugleddau gyda chriw o gyffiniau Llanbad i gasglu arian i elusen ganser, a bu iddynt gasglu swm sylweddol i'r elusen.
Yn 1997, bu iddi ail briodi gyda Wayne Greenhalgh a bu iddi dreulio llawer blwyddyn yn gweithio yn Nhafarn y Fic, Llanbedr. Tua dwy flynedd yn ôl bu i'r ddau gael eu cyflogi i fod yn rheolwyr y Grapes ym Maentwrog. Pob
amser y byddwn yn ei gweld, roedd yn sôn cymaint yr oedd yn mwynhau' rhedeg y dafarn yma gyda Wayne.
Gwta ddwy flynedd yn ôl, bu i Samantha eni merch fechan, Kelly. Roedd Lorna wedi gwirioni ei phen ar y fechan ac yn ymfalchïo mewn bod yn nain.
Pan fu imi dderbyn y newyddion gan ei merch fod Lorna yn ddifrifol wael yn Ysbyty Gwynedd ar noswaith braf o Fehefin eleni, roedd yn sioc ofnadwy. Ni allwn gymryd yr holl drychineb i mewn ac roedd y siwrna o Llanbad i Fangor i ffarwelio â fy ffrind gorau yn un o amseroedd mwya trist fy mywyd. Bu i mi gyrraedd mewn da bryd i allu treulio yr ychydig oriau olaf yn ei chwrnni.
Teimlaf yn freintiedig o fod wedi cael fy ngalw yn ffrind i Lorna - unrhyw amser y byddwn angen clust neu dim ond sgwrs byddai Lorna ar gael. I'w ffrindiau, nid oedd ddigon allai ei wneud. Cofiaf am byth ei ffyddlondeb pan fu farw fy mam dim ond ychydig fisoedd cyn Lorna. Roedd Lorna yn un o'r cynta' ddaeth i fod yn gymorth tra yn ymgymryd a r dasg erchyll o glirio tŷ fy mam. Bu yn gefn mawr i mi yn ystod amser mor ddwys a digalon.
O un peth dwi yn sicr; Lorna, fe'th welaf ryw dro yn y dyfodol.
Olwen Lloyd Jones