BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llais Ardudwy
Geraint Williams gyda'i dylluan frech Diwrnod Agored - Y Lasynys
11 Medi 2003
Ar 15 Awst tywynnodd yr haul a dylifodd y bobl yn lleol ac yn ymwelwyr i gefnogi diwrnod agored yn Y Lasynys ac i werthfawrogi'r llecyn enwog a hynod hwn.
Yn aml mae'n hawdd cymryd yn ganiataol trysor o le sydd ar garreg ein drws. Mae'r ty hanesyddol yn bwysig, nid yn unig i Ardudwy, ond i Gymru gyfan a thu hwnt ac mae'r gwaith o'i gynnal a'i gadw a'i ddiogelu i'r cenedlaethau a ddaw yn nwylo criw bychan o wirfoddolwyr gweithgar a brwdfrydig. Mae'r pwysau yn drwm ar ychydig ysgwyddau.

Agorodd y Lasynys ei ddrysau i groesawu'r cyhoedd i fwynhau diwrnod agored ac i droedio'r union loriau a dringo'r union risiau y bu Ellis a Lowri Wynne a'u naw plentyn yn eu troedio dros dair canrif yn ôl, a daeth bywyd yn ôl i'r hen dy unwaith eto.

Yn yr ystafell werdd sef y parlwr gorau' roedd Olwen Lewis yn brysur yn nyddu yn grefftus a di-lol. Daeth ag ugain neu fwy o gwiltiau o glytwaith lliwgar a hynod o hardd efo hi. Dyma drysorau teuluol y dyfodol a phetai gen i fag llaw go swmpus mi fyddwn wedi cael fy nhemtio i wthio un neu ddau ohonynt i'w grombil (fel sawl un arall yn sicr!).

Yn y neuadd fawr roedd casgliad o lwyau caru hynod wedi eu cerfio'n gelfydd gan Ffestin Williams a oedd wrth law i olrhain eu hanes.

Yn eu plith roedd un arbennig iawn wedi ei cherfio o bren hynafol o'r Lasynys.

Yn ei ymyl roedd Meinir Jones yn sgwrsio yn gartrefol am ei sampleri oedd wedi eu brodio yn gywrain a chrefftus i ddathlu sawl achlysur. Dyma lafur cariad go iawn ac ôl oriau o bwytho ymroddedig ar ei champwaith.

Ar y llawr uchaf gwelwyd Elfyn Owen sydd wedi meistroli'r grefft (ddiflanedig bron) o wneud cannwyll frwyn. Daeth ambell un fwy mentrus na'i gilydd i roi cynnig ar baratoi brwynen nid gorchwyl hawdd mohoni!

Tybed a ysgrifennodd Ellis Wynne ei glasur Gweledigaethau Y Bardd Cwsg' yng ngolau egwan y gannwyll frwyn? Tybed a oedd cannwyll frwyn yn goleuo ystafell Lowri Wynne pan fu farw wrth roi genedigaeth i'w mab?

Calonogol oedd cael arlunydd talentog lleol i arddangos ei waith. Lluniau dyfrlliw o olygfeydd lleol a symbylodd ddarluniau John Kerry a llawer yn dangos diddordeb mawr yn ei waith ac yn cydnabod ei ddawn.

Dau sydd yn sicr yn meddu ar ddoniau arbennig yw Hefin Jones a Dafydd Roberts. Y grefft o wneud troliau bychain sydd yn berffaith i'r milimedr olaf yw diddordeb Hefin.

Roedd ôl ymchwil ddygn ac oriau o gynllunio manwl ar ei waith ac eglurodd gefndir hanesyddol pob un o'r troliau. Rhywun sydd wedi meistroli'r grefft o wneud ffidlau yw Dafydd. Fedrwn ni ddim llai nag edmygu'r sawl all greu ffidil allan o ddarn o bren ond yn fwy na hynny hudo miwsig bendigedig o'r llinynnau. Gwir dalent.

Yn ystod y pnawn ymunodd Dafydd â Gerallt Rhun a Celt i'n difyrru â chanu hwyliog, traddodiadol. Bob yn ail â hwy cafwyd sawl cainc ar y delyn gan Bargoed ac ychwanegodd hyn awyrgylch arbennig i'r ty. Braf oedd ei weld yn rhoi gwers' i ambell blentyn ar ei delyn ac yn eu helpu yn garedig ac amyneddgar.

Atyniad diddorol arall i'r plant oedd cael gweld a chyffwrdd rhai o adar ysglyfaethus o eiddo Geraint Williams. Roedd ganddo hebog, barcud a thylluan ar y glaswellt o flaen y ty ac mae ganddo wybodaeth eang am yr adar ac yn ofalus iawn ohonynt.

Bu prynu a gwerthu brwd drwy gydol y dydd ar yr amryfal stondinau ac i lenwi boliau a disychedu'r dyrfa bu merched y gegin wrthi yn ddiflino yn paratoi bwyd blasus a thywallt galwyni o de!

Diolch i bawb am eu cymorth parod a'u cefnogaeth yn oedolion ac yn blant (ambell i gyw entrepeneur' yn amlwg ymhlith y plantos!). Mae dyfodol y Lasynys ychydig yn fwy diogel. Ia, diwrnod gwerth chweil!
Nerys Roberts


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy