BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llais Ardudwy
Arthur Rowlands Arthur ar y sgrin
Ebrill 2007
Bydd cyn blismon a gafodd ei saethu a'i ddallu dros ddeugain mlynedd yn ôl yn destun rhaglen ar S4C ym mis Ebrill.
Ac mae Arthur Rowlands a gafodd ei saethu yn ei wyneb ger y bont dros afon Dyfi ym Machynlleth newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 85 oed.

"Yr hyn sy'n wych am Arthur ydi na wnaeth o ddim chwerwi ar ôl y saethu," meddai Marian Elis cynhyrchydd y rhaglen sy'n rhan o'r gyfres O'r Galan, am bobl sydd wedi bod trwy brofiadau dirdynnol.

"Wnaetho jest derbyn pethau am nad oedd y dyn saethodd o yn ei iawn bwyll. Mae o'n byw bywyd llawn ac yn gwneud llawer i helpu eraill sy'n yr un sefyllfa a fo."

Ar noson olau leuad ym mis Awst 1961 y digwyddodd y saethu, pan oedd y plismon ifanc yn stopio a holi pobl i geisio atal achosion o ddwyn yn y canolbarth.

Mi gafodd ei saethu gan ddyn oedd yn llechu yn y cysgodion mewn gardd a chael ei ddallu'n syth.

Ar ôl hynny cafodd gefnogaeth yr heddlu i ddod i delerau a'i anabledd - gydag un swyddog yn cael ei ryddhau'n arbennig i'w helpu. a chael swydd sifil yn y gyfnewidfa ffôn yng Nghaernarfon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy