|
O hyn ymlaen adnabyddir y garej newydd fel Toyota Harlech.
Mae'r ystafell arddangos, y swyddfeydd a'r gweithdai newydd yn edrych yn wych ac yn sicrhau'r amodau gorau i bawb sy'n gweithio yno.
Dywed Gerallt Evans, ' rydym yn falch iawn o'n cartref newydd ac yn edrych ymlaen at gynnig y gwasanaeth gorau posib i'n cwsmeriaid fel y bum yn ei wneud dros yr holl flynyddoedd.
Hoffwn ddiolch yn gynnes iawn i bawb o'n cwsmeriaid am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd . Diolch hefyd i bawb a'n helpodd i wneud y diwrnodau agored mor llwyddiannus. Diolch yn arbennig i Gor Meibion Ardudwy am eu cyfraniad hwy i'r noson agoriadol.
 |