|
Cynhaliwyd y Ras ar ddydd Sul, 15 Chwefror, gan gychwyn gyferbyn â Gwesty'r Victoria am 10.30 y bore, yna ymlaen i Bentre Gwynfryn tros y bont am Ddolmygliw, i fyny trwy Goed Aber Artro hyd at raeadr Cefn Ucha, ymlaen i Bont Cwm Nantcol ac yna i Glan Rhaeadr, i fyny i ben y Llethr, lawr i Fodlyn, yna uwchben Bron y Foel Ucha i fan parcio'r Allt Fawr. Lawr i Dyddyn Bach ac yna yn ôl a gorffen ger Gwesty Victoria. Mae'r Ras yn 14.25 milltir ac yn codi i uchder o 2448 uwchben uwch ben lefel y môr. Roedd 25 o redwyr yn cymryd rhan, rhai wedi teithio o'r Alban. Y rhedwr cvntaf i gyrraedd yn ôl oedd Stephen Gilliland o Fro Dysynni gan gwblhau'r daith mewn 2 awr 4 munud a 42 eiliad, ac yn derbyn Tarian Gwesty Victoria a bocs o gig oen Cymreig. Yn ail oedd Phillip Whiting o Kendal mewn amser o 2 awr, 7 munud a 27 eiliad. Y ferch gyntaf i gyrraedd yn ôl oedd Lackie Lee mewn amser o 2 awr, 22 munud a 27 eiliad a derbyniodd Darian Gwesty Hen Feudy. Nid oedd teilyngdod i darian Gwesty Tŷ Mawr i'r rhedwr lleol cyflymaf. Y rhedwr hynaf yn cymryd rhan oedd Mr Peter Nomian o Wrecsam yn 66 mlwydd oed, mewn amser o 3 awr ac 11 munud. Hoffai pwyllgor y Ras ddiolch o galon i bawb a fu o gymorth ar y diwrnod a'i wneud yn ddigwyddiad hynod llwyddiannus.
 |