BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llais Ardudwy
Emyr John Holi hwn a'r llall
Tachwedd 2004
Yn ôl Emyr John o Lanfair, sy'n cael ei holi y mis hwn, dydi baswrs y de ddim cystal â rhai'r gogledd ac fe fyddai'n mynd a'i deulu a Beti George allan am ginio pe bai'n cael dewis.
Enw: Emyr John
Cefndir: Wedi fy ngeni a'm magu yn Llanfair. Dwy flynedd yn y Fyddin ac yna adeiladu tai am hanner can mlynedd. Wedi ymddeol rŵan ond yn gweithio mwy nag erioed (yn ddi-dâl) er mwyn cadw yn ifanc. Does gen i ddim amser i eistedd ar fy mhen ôl yn mynd yn hen.
Hoff le? Harlech a'r cylch. Does unman gwell nag eistedd ar y wal wrth dro Frondeg yn edrych ar yr haul yn machlud. Dyma'r olygfa orau yn y byd.
Hoff liw? Glas.
Hoff fwyd? Omlet nionod, pwdin reis a mins peis Janet Mostert.
Hoff ddarn o gerddoriaeth? Yr ymdeithgan 'The Contestor' yn cael ei chwarae gan Seindorf Black Dyke Mills.
Pa adeg o'r dydd sydd orau gennych?
Bore cyntaf, fel mae hi'n gwawrio. Cael eistedd ar y fainc wrth ymyl y pedwerydd wyrdd a gwrando ar yr adar bach yn canu a gweld ambell gwningen yn chwarae cyn i neb ddod o gwmpas. Cael edrych ar yr olygfa fendigedig - heddwch perffaith.
Pa fath o ganu fyddwch chi'n ei hoffi?
Rhywbeth â gafael ynddo. Corau meibion a chanu cynulleidfaol ac wrth gwrs 'Blaenwern'. Canu o'r Gogledd gan fod bas mor bwysig yn y dôn yma. Nid ydi baswrs y de cystal a rhai'r Gogledd.
Beth ydych chi'n ei gario efo chi?
Fawr ddim - £2.50 a goriada'r car yn un boced a hances yn y llall.
Hoff amser o'r flwyddyn? Y gwanwyn er mwyn gweld dechrau ar yr ardd a gweld tyfiant cyntaf y flwyddyn a'r coed yn blaguro.
Hoff anifail? Ci defaid oherwydd maen nhw mor ddoeth.
Beth wnaech chi efo £5,000? Ei rannu efo rhai sydd fwy o'i angen na fi.
Sut ydych chi'n hoffi treulio eich oriau hamdden? Pob cyfle rydw i'n gael - yn yr ardd. Yn yr amser a fu yn y golff ac wedyn wrth y bar yn sgwrsio a chanu gyda'm ffrindiau. Yn anffodus, mae y rhan fwyaf wedi'n gadael erbyn hyn. Mae'r pethau a'r cwmpeini wedi newid yn arw yn y blynyddoedd diwetha' yma.
Pa atgofion sydd gennych o fod yn yr ysgol?
Ychydig iawn achos yr oeddwn mor awyddus i orffen yno ond yr oeddwn wrth fy modd efo'r gwersi garddio.
Pryd ac ym mhle y buoch chi hapusaf? Pan briodais i a chael llond tŷ o blant. Dyna amser hapusaf fy mywyd; hefyd mwynhau ambell gêm o golff (os oedd y wraig yn caniatáu). Yna mynd i'r band am dros ddeugain mlynedd ac ar ôl ymarfer esgus da oedd cael mynd am ddiferyn i dorri syched.
Pwy ydych chi'n ei edmygu yn yr ardal hon?
Dudley Maidment. Dyma gymwynaswr go iawn, yn helpu pawb, heb ddweud dim wrth neb - does yna ddim llawer o'r rhain ar ôl heddiw.
Pwy yw eich arwr? Aneurin Bevan, mae'n debyg, oherwydd fe wnaeth o gymaint i helpu pawb ym myd iechyd.
Beth sy'n eich blino neu yn eich gwylltio?
Rhai pobl sydd wedi dod yma i fyw ar ôl ymddeol ond eisio neu yn trio dangos i ni y ffordd o fyw.
Tasech chi'n mynd allan i ginio, pwy fase'n cael dod efo chi?
Fy nheulu i gyd a Beti George er mwyn cael sgwrsio efo hi, ac ar ôl gorffen mi fuasa hi'n cael ein dreifio adref yn ei bws.
Beth fyddech chi yn ei gael i fwyta?
Stecsan a'r trimings i gyd - nionod a madarch yn bwysicach na dim, mefus a hufen iâ, a choffi i'w golchi i lawr.
Sut y buasech yn disgrifio chi eich hun ar hyn o bryd?
Wedi cael bywyd hapus, diolch i'r drefn, ac wedi bod yn lwcus iawn o'm hiechyd. Gobeithio yr eith popeth ymlaen am yr ugain mlynedd nesaf - efallai yn hirach!

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy