Ers gorffen yng Ngholeg Caerfyrddin yn 2002, mae Dave Taylor (ei enw llwyfan) wedi bod ar lwybrau diddorol iawn, yn teithio Cymru a thu hwnt.
Wedi iddo gael ei radd BA Theatr a Cherdd yng Ngholeg y Drindod symudodd i Fangor i astudio ar gyfer ei MA.
Tra yno ymunodd â Chôr Glanaethwy dan ofal Cefin a Rhian Roberts.
Yma cafodd y siawns i deithio i bob cystadleuaeth gorawl sin bod, Iwerddon i'r Wŷl Ban Geltaidd i'r Albert Hall efo Music for Youth ac i Fanceinion i ymuno efo'r gymuned Gymreig i ddathlu GŵyI Ddewi.
Erbyn hyn mae Dave newydd orffen dwy flynedd efo'r Theatr Genedlaethol fel un o'r actorion craidd. Ynghlwm efo hwn oedd symud i fyw i Lanelli - o un lan y môr i'r llall.
Tra gyda'r Theatr Genedlaethol cafodd y fraint o weithio gyda nifer o actorion enwocaf Cymru a chael dysgu llawer ganddynt.
Roedd cael bod yn rhan o bob cynhyrchiad am ddwy flynedd yn waith caled ond roedd wastad fwynhad ar ddiwedd yr ymdrech.
Un o'r pethau roedd Dave yn ei fwynhau fwyaf oedd yr amrywiaeth o gynhyrchiadau o ddramau 'taboo' gan Meic Povey, 'Yn debyg iawn i ti a fi', i'r clasuron gan Gwenlyn Parry, 'Tŷ ar y Tywod.'
Wrth gwrs, roedd yna glasuron wedi eu trosi o'r Saesneg fel 'Romeo a Juliet.'
Yn y cynhyrchiad yma yn arbennig roedd yna ambell i olygfa dawnsio a doedd y math yma o ddawns ddim yn rhywbeth fysa chi yn debygol o'i weld yn y Sandancer yn Bermo, gwell cadw hwnnw i'r Ball Room dwi'n meddwl, hwyl i gyd.
Mwynhad pur oedd cael cyfle i wneud comedi ac i Dave daeth hyn ar ffurf ffars gafodd ei hysgrifennu yn arbennig i'r Theatr Genedlaethol gan Gwyneth Glyn a'r cyfarwyddwr oedd Valmai Jones, 'Plas Drycin.'
Roedd yna elfennau o Fawlty Towers yn y cynhyrchiad a thipyn o debygrwydd i fynd a dod teulu'r Taylors, Tyddyn Goronwy.
'Rydw i wastad wedi hoffi hiwmor ar lwyfan', meddai. 'Roedd yna adegau pan oeddwn yn teimlo mod i yn ô1 yng nghanol sgets ar lwyfan neuadd bentref Dyffryn Ardudwy pan yn blentyn.
Colled fawr i'r ardal oedd colli'r Steddfod oedd yn rhoi llwyfan i'r ieuenctid.
Mae Dave yn edrych ymlaen i'w brosiect nesaf, beth bynnag fydd o. Gyda'r newyddion da o gael ei radd MA actio mis diwethaf, mae'r brwdfrydedd yn fwy nag erioed, a gydag Elizabeth Taylor yn fam iddo - pwy a ŵyr?
Hoffai Dave ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y ddwy flynedd a chynt ac am yr holl ddymuniadau da a llongyfarchion a dderbyniodd.