BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llais Ardudwy
Elfed Lewis Ennill Cadair
Mai 2006
Llongyfarchiadau i Elfed Lewis, Gerafon Talybont, ar ennill y gadair unigryw yma yn Eisteddfod Mynytho.
Terfynau
(Myfyrdod ger Dulyn)

Yn dy grud mor deg yr wyt,
Yn Eden tawel ydwyt,
Y llechwed sy'n coleddu
Dy hardd wedd rhag adwedd hy.
Pwy heliodd yma'r paled
O liwiog rin 'nôl ei gred
I harddu mor angerddol
Annedd wych uwch hoen y ddol.
Cudd eigion dy ddŵr llonydd
Dan wên haul ar arael rudd.
Geiriau ni wnânt agoryd
Y drws i'th ddirgelion drud.

Ond ynot mae brwd ynni
Cur dibaid i'm henaid i,
Yn ofid dwys o fyd hen
Yn sain groch, yn sŵn crechwen,
Hen ddolen o'r gorffennol,
Tennyn hir i'm tynnu'n ôl,
Yn ôl i gyntefig oes
Niwlennoedd awel einioes.

Ai o'r cawl hwn daw'r cel had
Anad ffrwyth ein deffroad,
Y genyn o wawr geni
Cadwyn hen i'n cydio ni?
Onid slaf i lysnafedd
Yw dyn, er hardded ei wedd?
Daw mewn llif o dwymyn laith
A dymor a hed ymaith,
Hen ddolen o'r gorffennol
Tennyn hir a'i tyn yn ôl.

Er y fraint i'm grwydro'r fro
Fy hunan a'r haf yno,
Daw machlud i'r wlad hudol,
Ac nid af i'w haf yn ôl.
Fy hyder sy'n oferedd
Wedi byw, nid oes ond bedd.

'Hynafgwr'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy