BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llais Ardudwy
Teml Mormoniaid yn Salt Lake City Cysylltiad â Harlech?
Mai 2007
Mae'r Athro Ronald Dennis o Brifysgol Brigham Young yn Salt Lake City, sy'n arbenigwr ar hanes y Mormoniaid Cymraeg aeth allan i Salt Lake City ym mhumdegau a chwedegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn chwilio am gymorth.
Mae'n dod â grwpiau o ddisgynyddion y Cymry yn ôl i Gymru bob haf, ac mae'n ceisio eu rhoi mewn cysylltiad â'u perthnasau sy'n dal i fyw yng Nghymru.

Eleni, mae un cwpl yn ei barti â chysylltiadau â Harlech. Fe ymfudodd eu teulu i Utah ym 1864, ond gadwyd y ddau blentyn hynaf ar ôl yng Nghymru. Roeddent wedi priodi ac yn magu teuluoedd, felly'n amharod i godi gwreiddiau a mynd.

Priododd y ferch hynaf, Jane, ag Edward Humphreys, teiliwr yn Harlech.

Roedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr yng Nghapel Rehoboth, ac yn faswr mewn côr, bu ef farw ym 1886, ac ar ôl ei farwolaeth, cymerodd Jane waith fel rhyw fath o ofalwraig yng Nghastell Harlech. Bu hi farw yn 91 oed, yn 1919.

Roedd ganddynt 11 o blant: Robert, Mary, Margaret, Humphrey, Hugh, Edward, Jane Elizabeth, Hannah, Edward Owen, Laura a Griffith. A dyna'r cyfan mae'r Athro Dennis yn ei wybod am y teulu.

Mae'n siŵr fod disgynyddion yn Harlech o hyd, ac mi fyddai wrth ei fodd yn clywed oddi wrthynt neu oddi wrth rywun sy'n gwybod amdanyn nhw. Ei gyfeiriad e-bost ydy: welshmormon@yahoo

Ei fwriad fyddai eu gwahodd ym mis Medi i hen gartre Jane a'i theulu yn Eglwysbach, Llanrwst, i gyfarfod â'u cefndryd o Salt Lake City, a dadorchuddio plac i gofio am antur fawr y teulu, pan aeth tad a mam a chwech o blant i gartre newydd yn y Gorllewin Gwyllt. Mae hanes yr antur enbyd honno i'w chael ar wefan yr Athro Dennis ar http://welshmormonhistory.org


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy