BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llais Ardudwy
Roger Owen Holi Hwn a'r Llall
Medi 2004
Holi Roger Owen, swyddog gyda Dŵr Cymru, sy'n byw ym mhentref Llanbedr.
Enw: Roger Owen.
Cefndir: Wedi fy ngeni yn Bermo a wedyn cael fy magu yn Pant Glas, Dyffryn Ardudwy. Yn bedair ar ddeg oed symud i Pen Bryn, Llanbedr. Heddiw yn byw yn y pentref gyda'r wraig, Janet, a thri o blant - Ceri, Catrin a Geraint. Gweithio gyda Dŵr Cymru/Severn Trent LABS yn mynd o gwmpas Gogledd cymro a bellach weithiau yn hel samplau dwr i'w gyrru i'r labordy i'w dadansoddi a gweld gwir ansawdd y dŵr yfed.
Hoff le: Ardal Ardudwy i fyny yn y bryniau, mynyddoedd a'r llynnoedd.
Hoff liw: Gwyrdd.
Hoff fwyd: Cinio dydd Sul.
Hoff ddarn o gerddoriaeth: Ar hyn o bryd, y thema i Schindler's List. Gyda'r Côr - Gwahoddiad. Amryw o fandiau pres.
Pa adeg o'r dydd sydd orau gennych? Bore cyntaf ar ddiwrnod braf yn y gwanwyn.
Pa fath o ganu fyddwch chi'n ei hoffi? Canu gwlad, canu gwerin a chlasurol.
Beth ydych chi'n ei gario efo chi? Cyllell boced, 'goriadau'r tŷ a'r fan a digon o bres am banad.
Hoff amser o'r flwyddyn? Gwanwyn, yn gweld bywyd newydd yn datblygu a phob anifail gwyllt yn brysur yn paratoi at fagu.
Hoff anifail? Anodd iawn i ddewis o anifeiliaid fferm ond buaswn yn hoffi'n fawr cael gweithio gyda cheffylau gwedd.
Beth wnaethech chi efo £5,000? Ei gadw i baratoi at y plant yn mynd i Goleg neu Goleg Uwchradd ond, gwario dipyn bach ar westy moethus am benwythnos i fi a Janet.
Sut ydych chi'n treulio eich amser hamdden? Beth ydy oriau hamdden? Gwaith coed - ffidlan gyda pheiriannau a hen dractors, ar benwythnos prysur yr haf mynd a'r plant am bryd o fwyd i fyny at Bodlyn a mwynhau'r heddwch.
Pa atgofion sydd gennych o fod yn yr ysgol? Adeg hapus a llawn o hwyl. Y wers orau rwyf wedi ei dysgu ar ôl gadael ysgol yw - dylwn fod wedi canolbwyntio ar waith ysgol a choleg yn lle mwynhau fy hun.
Pryd ac ymhle y buoch chi hapusaf? Hapus yn ardal Ardudwy.
Pwy ydych chi'n ei edmygu yn yr ardal hon? Evan a Gweneira, Allt Goch.
Pwy yw eich arwr? Y chwaraewr rygbi Gareth Edwards.
Beth sy'n eich blino chi neu yn eich gwylltio chi? Graffiti a baw cŵn ar y pafin.
Tasech chi'n mynd allan i ginio, pwy fase'n cael dod efo chi? Fred Dibnah - diddordeb mewn peiriannau stêm a Harry Ferguson datblygwr tractors Massey Ferguson, am sgwrs ddifyr, wedyn am hwyl Garry Williams, comedïwr a Tommy Cooper, comedïwr i glirio llestri.
Beth fyddech chi yn ei gael i fwyta? I gychwyn, cymysgedd o salad ffa a chaws, wedyn cig eidion wedi ei dorri mewn llafnau tenau a'i ffrïo mewn saws whisgi a hufen efo tatws newydd a llysiau. I bwdin tarten eirin Mair a cwstard cartref.
Sut y buasech yn disgrifio eich eich hun ar hyn o bryd? Yn fodlon efo bywyd ar hyn o bryd yn ffodus bod pawb yn y teulu yn iach ac yn fodlon eu byd. Yn ffodus cael byw mewn ardal mor hyfryd ond dim yn cael digon o amser i'w mwynhau. Amser yn brin a chymaint i wneud ond yn diolch am bob dydd.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy