|
Enillodd Jonathan y gystadleuaeth Cenedlaethol troi a throi dros ben (tumbling) Lefel 3 i'r rhai 15+. Braf yw cael adrodd am lwyddiant un a fagwyd yn ein plith. Bu Jonathan yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy a bydd yn eistedd ei brofion diwedd blwyddyn 9 ym mis Mai yn Ysgol Ardudwy, Harlech. Cychwynnodd diddordeb Jonathan ym myd gymnasteg pan yn 7 mlwydd oed. Ar ôl clywed am lwyddiant y Clwb Gymnasteg ym Mlaenau Ffestiniog cysylltodd rhieni Jonathan â Mrs Linda Dodd sydd yn hyfforddi yno. O dan ofan ac arbenigedd Mrs Linda Dodd a'i thîm datblygodd brwdfrydedd a dyfalbarhad Jonathan. Buan iawn y datblygodd Jonathan i deithio i gystadlaethau ledled Cymru a bu rhaid ymarfer yn gyson 3 gwaith yr wythnos ym Mlaenau Ffestiniog ac unwaith neu ddwywaith yr wythnos yng Nglannau Dyfrdwy. Rhaid i ni yma edmygu parodrwydd teulu Jonathan i'w hebrwng dros y wlad gan dalu'r holl gostau. Rydym mor falch bod gan Jonathan ddiddordeb ac yn barod i weithio", oedd sylw Mrs Karen Greenfield, mam Jonathan.
 |