|
Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, bu Rhian Jones yn byw yn Harlech ers pymtheng mlynedd bellach, pump ohonynt yn gweithio yn y Theatr, pump ohonynt yn rhedeg y swyddfa a'r pum mIynedd diwethaf yn y swyddfa a swyddog marchnata yn ogystaI. Llenwodd gadair wag y Cyfarwyddwr ers mis Ionawr, dros dro ar y cychwyn ac mae'r profiad blaenorol wedi bod o fodd mawr i fagu hyder yn ei rôl newydd. Mae Rhian yn edrych ymlaen i weithio gyda chynulleidfaoedd newydd a threfnu rhaglenni amrywiol a diddorol. Dymunwn y gorau iddi yn y dyfodol.
 |