Cyfle i ymlacio tipyn am 3.30 a glasiad sydyn mewn tafarn gyfagos cyn ei chychwyn mewn car am Tartu - taith o rhyw deirawr. Rhyw droedfedd a hanner o eira yn Tartu. Ro'n i'n aros mewn gwesty a fu'n westy hefyd i'r Dalai Lama rhywdro. Tref prifysgol yw hon ac mae adeiladau hynod ym mhob man. Cinio nos yn y dafarn Wyddelig sydd wedi'i henwi ar ô1 Wilde - mae gan Iwerddon ac Estonia lenorion gyda'r cyfenw hwn.Dydd Mercher, 19 Chwefror
Bore oer arall, ond doedd hi ddim yn chwythu nac yn bwrw eira - gallai fod yn waeth! Codi am 7.00 (5.00 or gloch gartref) a chychwyn am y ddarlithfa am 8.00. Criw mawr o athrawon a rheini'n annwyl dros ben; nifer dda yn medru rhyw gymaint o Saesneg ond nid bob un.
Cinio yn y ffreutur a hwnnw'n ddigon derbyniol. Pelen o gig wedi'i dorri'n fân, moron a bresych amrwd, a thatws gyda rhyw saws blasus arnyn nhw. Y ddarlith yn para tan 3.30 a chyfle wedyn i wagsymera o gwmpas Tartu.
Teithio wedyn i Paide a chyrraedd am 7.30. Swper i ddau gan gynnwys diodydd - £5.50 - bargen! Ro'n i yn fy ngwely efo'r llyfr am 9.15 a'm hysgwydd fymryn yn boenus.
Dydd Iau, 20 Chwefror
Siarad gydag athrawon yn Paide heddiw a chyfle i ymweld ag un o'r ysgolion lleol, cyfle hefyd i grwydro o ddosbarth i ddosbarth. Gweld mai prin iawn yw'r arfer o arddangos gwaith ar furiau'r dosbarthiadau. Clywais ddau gôr yr ysgol yn canu mewn deulais hyfryd. Roedden nhwn ymarfer ar gyfer cyngerdd dathlu eu hanibynniaeth ar 24 Chwefror. Bum yn siarad ag amryw o blant ac athrawon. Pawb yn glên iawn. Siom i mi oedd sylweddoli na wyddai'r athrawes Saesneg ddim am waith R. S. Thomas. Bu raid i mi roi gwers sydyn iddi!
Cyfle min nos i adfyfyrio ar y daith ac i ffarwelio a'm cyfeillion ac i gyfnewid anrhegion, cyn ei chychwyn yn blygeiniol fore drannoeth ar y daith adref i Gymru. Bydd cyfle i orffen y llyfr ar y cwch ac ar yr awyren.
Rhai atgofion melys a rhai a fu'n destun difyrrwch:
Roedd wynebau'r plant mor hapus, ac yn ôl a glywais, dydyn nhw ddim mor ofnus ag a fuont yn ystod y cyfnod Sofietaidd.
Roedd y werin bobl yn ddigon tlawd, ac mae prisiau'n dal i godi. Roedd amryw o'r merched yn gwneud eu dillad eu hunain a rheini'n rhai digon ffasiynol
Synnais weld cymaint o ferched yn lliwio'u gwalltiau yn goch a minnau wedi arfer bod yn y lleiafrif
Roedd y bwyd yn gweddu i'r dim i mi; tatws, cig a grefi a llysiau amrwd yn amlach na pheidio
Doeddwn i ddim wedi paratoi'n iawn ar gyfer yr oerni - dillad isaf 'thermal' y tro nesaf a chap fydd yn gorchuddio'r clustiau! Potel ddwr poeth hwyrach, hefyd!
Diddorol oedd sylwi ar gotiau, yn arbennig rhai'r marched, a oedd yn amrywio'n fawr o ran steil ac ansawdd. Mae côt fawr, gynnes, dda yn angenrheidiol yn y gaeaf wrth gwrs.
Daw'r atgofion melys i'r cof wrth feddwl am y fath letygarwch a gefais a'r cydweithrediad parod a brofais gan yr athrawon. Bum mor hyf â gwahodd llawer ohonyn nhw i Gymru, ac mae yna sôn wedi bod am wahodd Côr Meibion Ardudwy i Estonia, ond go brin mai ym mis Chwefror y buaswn i'n awgrymu mynd!
Rhai ffeithiau am Estonia :
Poblogaeth: 1,439,197
Pennaeth y Wladwriaeth : Yr Arlywydd Arnold Ruutel
Prifddinas : Tallin, pobl 408,329
Diwrnod anibynniaeth 24 Chwefror
Arwynebedd : 45,227 milltir sgwâr
Pellter o'r gorllewin i'r dwyrain: 350km
Pellter o'r gogledd i'r de: 240km
Bryn (mynydd?) uchaf : Suur Munamagi 318m
Arian: EEK Kroon. 1 ewro = 16 EEK
Iaith Swyddogol : Estoneg
Nid oes gwahaniaeth rhwng yr iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig
Crefydd Lutheraidd yn bennaf.
Mae 70 % o'r bobolgaeth yn byw yn y trefi
Mae 101 aelod o'r senedd Riigikogu, ac mae 14 o weinidogion.
Mae'r tymheredd o dan sero am rhyw 100 diwrnod y flwyddyn.
Mae 43% o'r boblogaeth yn defnyddio cyfrifiaduron.
Yn 1988, digwyddodd y chwyldro canu enwog pan ddaeth rhyw 300,000 ynghyd i Gymanfa Genedlaethol i ganu'r caneuon gwladgarol a waharddwyd gan y Sofietiaid.
Phil Mostert