|
Er na chafwyd dechrau rhy dda i'r tymor, gwella yn raddol wnaeth y tîm, yn enwedig y criw ifanc, ac i orffen y tymor enillwyd pedair gêm yn olynol gyda sgôr o 6-2, 6-1, 6-0 a 4-2. Yn y gem olaf un, yn Llanrug, roedd pawb yn hyderus iawn o ennill, ond roedd tîm Llaneurgain hefyd yn benderfynol, gan sgorio dwy gol yn y deng munud cyntaf. Yn raddol, dangosodd Ardudwy eu gallu i frwydro'n ôl, a chawsom bedair gôl ragorol i goroni'r tymor. Hoffai'r genod i gyd ddiolch yn fawr i Cath Smith sydd wedi cadw'r tîm i fynd dros y blynyddoedd diwethaf. Er mai o gyffiniau Llanfairpwll (lle mae Cath a'i theulu yn byw bellach) y daw y rhan fwyaf o ferched iau y tîm erbyn hyn, yn y llun gwelir aelodau'r tîm sydd yn parhau i fod a chysylltiad ag Ardudwy, sef (yn sefyll) Linda Smith, Llinos Rowlands (Edwards gynt o'r Penrhyn), Haf Meredydd, Cath Smith (Jones gynt o'r Waun), Jacqueline Smith, Caroline Smith. Ar y blaen mae Helen Iles o'r Bermo a Nicky Ashcroft, sydd wedi chwarae i Ardudwy ers sawl blwyddyn.
 |