|
Mr Tudur Williams, y Prifathro, yn cyflwyno Gwobr Goffa Elfed Evans i Dafydd Roberts, Blwyddyn 10, am ei lwyddiannau mewn chwaraeon yn ystod y flwyddyn ysgol 2002/03. Mae'r wobr, sy'n werth £50.00 mewn deunydd chwaraeon yn cael ei chyflwyno am gyfraniad arbennig i chwaraeon yn yr ysgol. Mae Dafydd yn enillydd teilwng ac wedi cyfrannu'n helaeth ym maes Rybgi, Pel-droed ac Athletau. Mae'r wobr yn cael ei rhoi'n flynyddol er cof am Elfed Evans, cyn ddisgybl yn yr ysgol a oedd yn rhagori yn myd chwaraeon.
 |