|
Cyflwynwyd cwpan er cof am y diweddar Alun Williams i Sioe Arddio Harlech eleni. Caiff y cwpan ei gyflwyno'n flynyddol i'r sawl sydd yn arddangos y tomatos gorau - roedd gan Alun ddileit arbennig yn y gystadleuaeth hon a byddai'n cystadlu'n aml.
Yn y llun fe welir ei ferched, Katherine a Karen yn cyflwyno'r cwpan i Mr Robert Edwards ar ran y sioe.
Ennill 22 o wobrau
Enillodd Edwin Jones, Morlais, Harlech, 22 o dystysgrifau yn Sioe
Arddio Harlech eleni.
Mae ganddo dros 100 o bwyntiau yn barod cyn cystadlu eto yn y Sioe
Glan Gaeaf.
Mae'n arddwr brwd iawn fel y gwyr pawb sy'n ei nabod
yn dda a bydd yn cystadlu mewn sawl sioe yng Ngwynedd dros yr
wythnosau nesaf.
Cofiwch am ddyddiad y sioe nesaf - 2 Tachwedd.
 |