|
Mae llawer iawn o dir llaith wedi ei ddraenio ac mae'r gornchwiglen hefyd angen tir agored wedi ei aredig ar adeg nythu. Oherwydd newid mewn ymarfer ffermio nid oes cymaint o'r math yma o gynefin i'r adar nythu yno. Mae nhw'n hoff o fwydo ar dir eithaf gwlyb gan chwilio am bryfed genwair, malwod ac anifeiliaid eraill sy'n hoff o dir llaith. Wrth orffwyso maen nhw'n aros gyda'i gilydd ond wrth fwydo mae nhw'n gwasgaru fel nad ydyn nhw'n ymyrryd â'i gilydd tra'n chwilio am eu bwyd. O bell, mae'n edrych fel pe bae'r holl haid ohonyn nhw'n symud wrth i unigolion redeg ymlaen yn gyflym, edrych ar y ddaear, a phlygu i godi rhywbeth bwytadwy. Mae'r adar yn ymddangos fel dotiau duon ond mae eu plu yn wyrdd hardd yn yr haul. Ambell waith fe welwch wylan yn hedfan ar ôl cornchwiglen er mwyn ceisio dwyn y bwyd mae hi wedi eigasglu. Wyddoch chi am nyth y gornchwiglen neu hanesion amdani hi yn Ardudwy? Anfonwch bwt i'r Llais o'ch atgofion am yr aderyn cyfarwydd hwn.
 |