BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llais Ardudwy
Bryn a'i ddwy ferch wedi'r ras. Y Ras Fawr
Mai 2005
Marathon Llundain gan Bryn Roberts, Merthyr, Harlech
Rydw i wedi hoffi rhedeg ers pan yn blentyn, cofio'n iawn fel y byddem yn blant yn rhedeg i ddal wyn bach i'w marcio.
Yna rhedeg traws gwlad pan yn Ysgol Ardudwy heb ddangos llawer o addewid ond roeddwn yn mwynhau'r profiad. Felly rhyw ddatblygiad naturiol oedd i mi wedi tyfu'n hyn fyddai mynd am ryw hanner awr o redeg ar ffordd Fonllech neu lan mor Harlech.

Roedd rhedeg y ras marathon yn Llundain wedi bad yn uchelgais gen i ers blynyddoedd ond cael fy ngwrthod dair gwaith a gefais yn flaenorol. Ond, ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, dyna benderfynu ymgeisio o dan adain Cronfa MacMillan. Bu caredigrwydd y nyrsys a staff y mudiad yma o werth mawr i Siân a minnau yn ystod ei thriniaethau a'i gwaeledd hir. Addewais y buaswn yn rhedeg y marathon fel ffordd o ddangos fy ngwerthfawrogiad personol a sicrhau y buaswn yn gallu codi o leiaf £2,000 at yr elusen ac roeddwn yn ymuno â 660 o redwyr eraill oedd yn nhîm MacMillan ar 17 Ebrill, ond roedd oriau lawer o ymarfer o'm blaen.

Cychwynnais y paratoi fis Hydref diwethaf, a thrwy'r gaeaf dwi wedi bad yn rhedeg bedair noson yr wythnos.Dyma gyrraedd Euston ar y prynhawn Gwener ynghyd a naw o'n teulu a ffrindiau heb anghofio Elan a Cadi.

Wedi dadbacio rhaid oedd mynd i ganolfan Ex-cel yn y dociau i gofrestru a derbyn fy rhif rhedeg a'r sglodyn meicro oedd i roi amser swyddogol pob un rhedwr. Roedd mynd ar yr 'underground' am hanner awr wedi pump ar ddydd Gwener yn brofiad i hogyn o dopiau Harlech!

Cawsom gyfle dydd Sadwrn i ryfeddu at Lundain a'i phensaernïaeth wych a'r drafnidiaeth wallgof. Od oedd meddwl mae trannoeth rhedwyr fyddai'n byrlymu ar hyd y strydoedd hyn. Pnawn, cefais orffwys yn y gwesty tra bu'r plant a'r merched yn gwylio sioe Chitty Chitty Bang Bang. Yna fin nos mynd gyda Wyn, fy mrawd-yng-nghyfraith i dŷ bwyta am barti pasta gyda 250 o redwyr eraill MacMillan. Roedd yn deimladwy iawn siarad â'r gwesteion - pawb â'i wahanol stori ond yr un rheswm gennym i gyd yn y diwedd atgofion.

Noson nerfus o gwsg oedd hi - a chodi am 6.30. Bwyta brecwast o miwsli, tost a digon o ddŵr i'w yfed ond roedd y stumog yn llawn 'pili-palod'. Yna dyna wisgo fest gwyrdd MacMillan ac i ffwrdd am Greenwich. Roedd yn brysurach ar y tiwb nag oedd hi nos Wener ond synhwyrais awyrgylch gwahanol heddiw - pawb yn siarad â'i gilydd a neb yn darllen llyfr!

Roedd rhaid cerdded ugain munud i'r man cychwyn. Wrth glywed criw'n siarad Cymraeg, dyma ofyn ble yng Nghymru roeddynt yn byw. Y Trallwng, atebodd un ddynes a phan ddywedais fod mam yn dod o'r ardal honno, y Foel, dyma ddweud yn syth, "Dim mab Beti wyt ti?" Tipyn o gyd-ddigwyddiad sydd ond yn medru digwydd i Gymry.

Wedi mynd i'r lle chwech am y tro olaf dyma ymuno â'r 34 mil o redwyr eraill ac aros i'r gwn danio, yna cerdded am ddeg munud cyn croesi'r llinell gychwyn. Gan bod cynifer ohonom gyda'n gilydd amhosib oedd rhedeg yn rhwydd am yr banner gyntaf ond mi roedd yn rhoi cyfle i fwynhau'r awyrgylch trydanol; tyrfaoedd ar hyd y strydoedd yn gweiddi ac yn cynnig darnau o orennau, bananas neu 'jelly-babies', Chariots of Fire yn dod o lawr uchaf blociau o fflatiau, bandiau pres, caraoce yn llenwi'r lle.

Trwy lwc roedd yr heulwen yn gwenu ond buan iawn yr aeth hi'n reit llethol i redeg. Roeddwn yn falch o'r cap Draig Goch ac yn fwy diolchgar fyth o'r poteli dŵr oedd inni bob milltir.

Cael gwefr wrth groesi Pont Llundain a braf oedd clywed y dyrfa'n bloeddio eich enw. Bryn oedd ar y crys ond Bryan oeddwn i'r Saeson! Ond roedd clywed Bryn ag acen Gymraeg neu weld banner y ddraig goch yn chwifio yn y dyrfa yn rhoi hwb i gamu ymlaen.

Gwelais ein 'criw ni' i gyd ar ben 14 milltir a chefais roi sws sydyn i Elan a Cadi cyn ei throi hi am yr Isle of Dogs a rhedeg heibio'r adeiladau gwych yn Canary Wharf.

Dyna weld y teulu eto wrth basio 22 milltir a dyma pryd dechreuodd y coesau deimlo'n drwm ond roedd cefnogaeth y dorf a'r cyd redwyr yn cadw'r ysfa i gario mlaen. Ar 23 milltir rhedeg wrth ochr yr afon Tafwys ac yna pasio Llygad Llundain, dim ond milltir ar ôl, yna heibio Ty'r Cyffredin a Big Ben ac i fyny Birdcage Walk, 800 metr i fynd, cael egni o rywle i ymestyn fy ngham a heibio Palas Buckingham cyn gorffen yn y Mall.

Cwblheais y marathon mewn 3 awr a 42 munudTeimlad llawn emosiwn oedd croesi'r llinell - balchder a rhyddhad o orffen ond tristwch mawr nad oedd Siân yno i'm cofleidio, ond gwyddwn y buasai Siân yn falch mod i wedi gwireddu breuddwyd o redeg y marathon.

Derbyn y fedal a lapio fy hun mewn baner draig goch cyn croesi i Barc St James i gwrdd y teulu.

Dymunaf ddiolch o galon am yr haelioni arbennig a dderbyniais yn yr wythnosau diwethaf. Mae'r gronfa wedi cyrraedd £6,177 ac mae mwy o arian i ddod eto. Mae hyn yn swm anrhydeddus i Gronfa MacMillan gan obeithio y galluogir iddynt gario ymlaen â'u gwaith gyda phobl sydd mor anffodus a bod ei angen. Gwerthfawrogaf y gefnogaeth a gefais gan ffrindiau a'r teulu i warchod y genod gan alluogi i mi baratoi at y ras.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy