Mae'r stori yn dechrau yn Ros Muc (Rhos y Moch) yng Nghonamara yn yr Iwerddon pan wahoddwyd y ddau ffrind - Bili Jones a Phil Mostert - i ymuno â'u cyfaill, Martin, yn y fawnog beth amser yn ôl.
Prif waith Martin yw casglu gwymon a chaiff arian da am wneud hynny. Er hynny, mae'n hoff iawn hefyd o dorri mawn er nad yw'r pres a gaiff gystal. Mae'n mwynhau'r gwaith corfforol ac roedd yn barod iawn i ni roi cynnig arni. Cawsom groeso cynnes ganddo a chynnig i fynd â llond y gist o fawn gartref efo ni.
Gwnaed hynny. A dyma fynd ati i gynnau tân gan ddefnyddio mawn Conamara yn y grât ym Mryn Awel un noson. Gwahoddwyd Arawn Lloyd Jones, Cerrig Gwaenydd, atom gan y gwyddom ei fod yntau yn cofio cynaeafu mawn ers talwm. Ni chafwyd unrhyw drafferth i gynnau'r tân. Roedd y fflamau'n dawnsio ar yr aelwyd ond, nid oedd fawr o arogl mawn yn yr ystafell.
Pefriai llygaid Arawn wrth wylio'r mawn yn llosgi ac ymhen dim yr oedd yn dechrau adrodd hanes pobl yn cario mawn o Gerrig Gwaenydd i fyny i'r Llechwedd. Ond yn ôl Arawn, doedd y mawn hwnnw ddim yn llosgi gyda fflam; rhyw fudlosgi yr oedd o. Cafwyd seiat ddifyr iawn y noson honno.
Ymhen tipyn, aethom i chwilio am lyfr Trefor Owen yng nghyfres Llafar Gwlad, sef 'Torri Mawn', a buom yn edrych ar y cyllyll Cymreig amrywiol, gan gymharu'r grefft yn y ddwy wlad orau y gallem. Prynwyd copi o'r llyfr i nifer o gyfeillion, a dyna oedd testun ein sgwrs yn y 'seiat' yr wythnos honno.
Un oedd ar gyrion y seiat honno yw Dylan Roberts [Bryn Melyn, Ffestiniog, gynt] ond sydd wedi ymgartrefu yn Harlech ers rhai blynyddoedd. Dywedodd wrthym fod ganddo ef gyllell torri mawn yn ei feddiant, ond ei bod yn hen ac yn rhydlyd erbyn hyn, wrth reswm. A, dyma Bili'n dweud, 'Wel, os caf fil fenthyg y gyllell mi fedra i wneud copi ohoni. Mae gen i damaid o ddur adre yn y garej. Fydda' i ddim chwinciad yn gwneud coes iddi.' A dyna ddigwyddodd.
Y cam nesaf oedd mynd i'r fawnog yng Ngherrig Gwaenydd ganol fis Mehefin a thorri'r mawn. Yna ei osod allan i sychu yn yr haul, gan wneud mydylau bychain a'u troi'n rheolaidd. Erbyn hyn, mae gennym docyn, ond nid oes gennym lwyth mawr - na throl a cheffyl i'w gario! Ond rydym yn barod i gynnau tân, rhyw fin nos pan ddaw'r gaeaf.
Mae'r wisgi Gwyddelig wedi'i brynu ac mae'n debyg y caiff hwnnw ei yfed wedi i ni gael pryd traddodiadol. Diau y bydd angen gwahodd rhai eneidiau hoff cytun i gydwledda. Dydyn ni ddim yn siŵr eto ai lobsgows ynteu 'Irish Stew' y byddwn yn ei fwyta!
Diau y bydd yn noson ddifyr. Yn sicr, fe fydd y croeso'n gynnes. Mi gewch yr hanes mewn rhifyn arall o'r Llais - cyn bo hir gobeithio. Mae'r stori'n dechrau yn Ros Muc ond dydy hi ddim yn gorffen yn y fan honno.