|
Yng Nghernyw cafodd y tri, Corporal Aron Humphreys, Cadéts Jamie Herbert a Gethin Jones, fwynhau llawer o weithgareddau arbennig sy'n unigryw i'r ATC.
Ymysg y rhain roedd dysgu i hedfan awyrennau, saethu, dringo creigiau'r arfordir, a chael hedfan yr hofrennydd cyfrifiadurol (simulator).
Roedd ganddynt siawns ardderchog i gyfarfod llawer a gwneud ffrindiau newydd ac wrth gwrs roedd hefyd ddigonedd o amser i fwynhau'r dref leol, sef Newquay, yn ogystal â defnyddio cyfleusterau hamdden fel y sinema, discos a chlwb Atlantig a oedd ar gael yn eu hamser hamdden.
Ar ddiwedd y wersyllfa cafodd y tri cadét nid yn unig dystysgrif i ddangos eu presenoldeb yn y gwersyll blynyddol, ond tystysgrif arbennig i ddangos eu bod yn y grŵp gorau oedd yn bresennol yno, sef 'C Flight', a chafodd Corporal Aron Humphreys fathodyn clod newydd am saethu arbennig.
Mae'r hogiau yn cytuno fod yr ATC yn cynnig cyfle ardderchog i ddatblygu ar gyfer ieuenctid lleol. Mae'r ATC yn agored i unrhyw un, genod neu hogiau sydd dros 13 mlwydd oed, ac mae'n cael ei gynnal bob nos Lun a nos Wener, o 7 tan 9 o'r gloch, yn yr adeiladu sgwadron sydd rhwng Llanbedr a Mochras. Mae croeso i unrhyw un ddod i weld neu i ymuno efo ni.
 |