BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llais Ardudwy
Bron y Graig, Harlech Mrs Lloyd, Bronygraig
Ebrill 2008
Yn sicr mae'r cof am deulu Bronygraig wedi pylu ar ôl marw Mrs Lilian Lloyd yn 1963. Collodd ei gŵr, Cyrnol Lloyd, yn 1926, ond bu hithau yn teyrnasu dros agweddau o fywyd Harlech am ddeugain mlynedd.
Mae'n dda gwybod fod gan rhai o drigolion Harlech atgofion melys am Mrs Lloyd. Fis Mehefin diwethaf cefais y fraint o holi Mrs Margaret Edwards (Williams), 91 oed, am ei chyfnodau yn gweithio ym Mronygraig. Aeth Mrs Edwards i weithio i Bronygraig pan yn 18 oed a bu yno am flynyddoedd cyn ac ar ôl 1939 ac roedd wedi mwynhau ei hamser yno'n fawr.

Codi yn fore i lanhau a mynd a brecwast yn y gwely i Mrs Lloyd, a'r bwyd wedi ei baratoi gan y gogyddes, Gwen. Ar ôl pryd canol dydd byddai'n rhaid newid a gwisgo'n ffurfiol i weini ar Mrs Lloyd a'r ymwelwyr ddeuai yno yn y prynhawn. Roedd gan Mrs Lloyd lawer o ffrindiau a bywyd cymdeithasol llawn gyda Sefydliad y Merched a'i gwaith ar Fainc yr Ynadon. Adeg prysur iawn oedd yr adeg pan gynhelid Garddwest Flynyddol Sefydliad y Merched a'r lle dan ei sang a phawb yn gweithio'n ddygn i baratoi'r byrddau a'r stondinau.

Digon i waith 19 ond roedd Mrs Lloyd yn ofalus am iechyd Mrs Edwards. Soniodd am ei bwriad i fynd allan i ddawns pan nad oedd wedi bod yn dda. Bu Mrs Lloyd yn ceisio ei darbwyllo i beidio mynd ac yn trefnu i'r meddyg lleol ddod i roddi ei fam ar y sefyllfa ac felly'n rhwystro Mrs Edwards rhag mynd allan gyda'i ffrindiau. Roedd Bronygraig yn enwog am yr ardd, ond roedd cadw ieir a thyrciod hefyd yn rhan bwysig o'r stad. Byddai'n rhaid cadw cannoedd o wyau mewn padelli gogyfer a'u defnyddio ar adegau pan na fyddent ar gael. Roedd pluo'r tyrcïod adeg Nadolig yn waith llafurus a threfnu eu cludo i'r trên i gael eu danfon i'r farchnad ac fel anrhegion i'r teulu.

Roedd gwyliau'r haf yn amser pan fyddai ychydig o ryddid i staff Bronygraig, gan yr ai Mrs Lloyd i ffwrdd am rai wythnosau a gosod y tŷ i ymwelwyr. Oherwydd hynny, byddai modd cael dau gyflog ac amser mwy diddorol, yn enwedig pan ddeuai deintydd o Lundain a'i deulu i aros. Ond ymwelwyr cyson eraill oedd wyresau Mrs Lloyd a'u teuluoedd hwythau, ac mae Mrs Edwards yn cofio'n arbennig ei chyfeillgarwch gydag Anne Veronica, wyres Mrs Lloyd sy'n parhau i gadw mewn cysylltiad gyda hi gan eu bod yn weddol debyg o ran oedran.

Un o'r dyletswyddau cyson oedd gofalu am y cwn a mynd a hwy o gwmpas Harlech ac o gwmpas y gerddi helaeth. Pan ddeuai oes y cŵn i ben byddai'n rhaid eu claddu yn barchus mewn mynwent yn rhan uchaf y gerddi a gosod carreg fedd arnynt. Tybed faint sy'n cerdded Parc Bronygraig heddiw heb wybod eu bod yn cerdded mewn mynwent cŵn? Yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd bu Mrs Edwards yn gweithio fel Howscipar i Mrs Lloyd a bu hi a'i phlant yn byw ym Mronygraig, ac felly nid oedd modd rhoddi lle i'r efaciwis. Cyfnod o waith dygn ond cyfnod pleserus lawn a barodd tan ar ôl y rhyfel oedd hwn, pryd yr aeth Mrs Edwards a'r teulu i fyw i'r Waun.

Roedd Mrs Lloyd yn cymryd diddordeb mawr ym mywyd plant Mrs Edwards ac yn rhoddi ei hamser i ddarllen storïau iddynt a cheisio gwella eu Saesneg. Pan fu rhaid gwerthu Bronygraig cafodd Mrs Edwards gyfle i gael un eitem o'r tŷ^ i gofio am ei hamser yno ac mae'r darlun ganddi o hyd. Mae gan Mrs Edwards atgofion melys am garedigrwydd a gofal Mrs Lloyd amdani trwy'r blynyddoedd.

Atgyfnerthir atgofion Mrs Edwards gan atgofion Mrs Mary Esau (Williams gynt) oherwydd ei bod yn ymweld â Bronygraig yn gyson yn yr 1940au. Roedd ei thaid Griffith John Williams (Jackie Chips) yn gyfeillgar iawn gyda Dudley Bauleh, garddwr Bronygraig ac roedd ganddo randir yno ei hunan. Felly byddai Mary yn mynd gyda'i thaid yn aml a bob amser yn galw i weld Mrs Lloyd yn y tŷ, mynd i mewn i'r ystafell ffrynt a mwynhau sgwrsio a chael diod lemoned cartref.

Roedd yn helpu trwy gasglu afalau yn y berllan a'u cludo i'r siediau i'w cadw dros y gaeaf, a gofalu rhoddi'r afal cyntaf i Mrs Lloyd. Parhaodd y cyfeillgarwch trwy'r pumdegau ac yn haf 1963 pan oedd y tŷ'n cael ei glirio derbyniodd rodd o ddwy fâs Worcester i gofio am Mrs Lloyd. Gwraig fonheddig garedig yw cof pennaf Mrs Esau am ei hen gyfeilles. Mae ganddj gof am brysurdeb Mrs Lloyd ym mywyd cyhoeddus Harlech ac yn y pasiantau a'r ŵyl gerddorol a gynhelid yn yr 20iau a'r 30au.

Yn yr un modd mae gan Olwen Wright (Williams) atgofion am Mrs Lloyd pan oedd hithau'n gweithio yn siop y fferyllydd yn Harlech. Dim ond hi oedd yn cael gwasanaethu Mrs Lloyd ac mae'n dal i drysori'r darn o bres a gafodd Cyrnol Lloyd yn ystod ei gyfnod yn Burma fel anrheg priodas.

Mae gan Mr Dudley Maidment (92 oed) hefyd lawer o atgofion am ardal Harlech cyn yr Ail Ryfel Byd ac yn arbennig am Bronygraig. Ganddo ef y cefais gopi o fanylion yr arwerthiant Awst 1963 pan werthwyd Bronygraig.

Tŷ nobl chwe ystafell llofft, selerydd, adeiladau yn yr ardd lle bu'r ffatri bop, gerddi llysiau a rhosod, llwybrau trwy'r coed a llawer o lwyni hardd megis asalea a rhododendron. Gardd oedd hon oedd yn rhoi gwaith i naw o arddwyr llawn amser yng nghyfnod Iarll Winchelsea cyn 1912, gyda Mr Rice yn ben-garddwr. Does dim rhyfedd fod Parc Bronygraig heddiw yn lle mor ddymunol i gerdded ac i hamddena, ond chwith meddwl fod y tŷ mawr wedi ei ddymchwel er mwyn codi stâd o dai a thai unllawr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd caniataodd Mrs Lloyd i Glwb Garddio Harlech gael rhandiroedd yn yr ardd i dyfu llysiau ac roedd gan Dudley a'i frawd ddarnau eu hunain i'w palu ac i ofalu amdanynt.

Cyril Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy