|
Cafwyd grant o £72, 000 gan Llywodraeth Cynulliad Cymru o'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol. Cafodd y newyddion eu croesawu gan Sam Davies, Cadeirydd Pwyllgor Canolfan Gymunedol Llanwnda. "Mae'r dyfarniad o Grant y Cynulliad yn newyddion da dros ben, ac 'rydym yn gynyddol hyderus fod y freuddwyd o gael Canolfan newydd yn Llanwnda bron â chael ei gwireddu. Gyda'r gefnogaeth sydd wedi ei chynnig yn barod gan Gyngor Gwynedd a datblygiadau eraill, mae dros hanner cant y cant o'r cyllid angenrheidiol wedi ei sicrhau, a byddwn yn derbyn ymateb i'n cais loteri yn ystod y misoedd nesaf. "Mae'r Pwyllgor lleol wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y deuddeg mis olaf, ac mae'r gefnogaeth o'r gymuned yn dangos yn eglur fod yna alw am Ganolfan i ddiwallu anghenion trigolion Dinas, Llanwnda a'r fro. Yn naturiol, mae Grant y Cynulliad yn ddibynnol ar dderbyn y gweddill o'r cyllid o Gronfa'r Loteri Fawr a gobeithio fod y datblygiad diweddaraf yn rhoi'r hyder iddynt i gefnogi ein cais." Mae'r Pwyllgor lleol hefyd yn wynebu her o godi £8,000 at y costau adeiladu, ac mae'r aelodau'n prysur baratoi ar gyfer prif ddigwyddiad codi arian y flwyddyn, sef Ocsiwn Addewidion a fydd yn cael ei chynnal ym Modurdy Vauxhall Dinas nos Wener, 12 Tachwedd gan gychwyn am 7.00 o'r gloch. Menna Jones yw un o drefnwyr yr Ocsiwn ac meddai: "Rydym yn gobeithio cael i fyny at gant o addewidion i'w gwerthu yn yr Ocsiwn. Mae amrywiaeth syfrdanol o addewidion wedi cael eu cynnig yn barod gan gynnwys wyth llun print gan Syr Kyffin Williams, lluniau gan nifer o artistiaid lleal yn cynnwys William Selwyn, David Williams a Steven Jones, barddoniaeth gan Mei Mac, Geraint Lloyd Owen ac eraill.
 |