|
Cyfle arbennig oedd hwn i'r ardalwyr gael cip ar y Ganolfan Dreftadaeth cyn diwrnod yr agoriad swyddogol.
Testun rhyfeddod oedd gweld yr adeilad wedi ei adfer mor wych, y dresel a'r hen gloc mawr yn eu lle, "aelwyd gynnes a bwrdd siriol yn ein haros" chwedl Kate Roberts.
Yn y tŷ llaeth roedd potiau pridd mawr a sebon coch a chanhwyllbren neu ddwy, a noe, wrth gwrs, a thaclau gwneud menyn.
Er nad yw popeth yn barod eto ambell ddodrefnyn yn dal yn eisiau ac angen ychydig o eli-pen-elin yma ac acw, mae'r rhagolygon yn ardderchog y bydd Cyfeillion Cae'r Gors yn llwyddo i droi'r hen furddun yn ganolfan wir deilwng o'r awdures.
Cafodd yr ymwelwyr gyfle i fynd am dro bach o gwmpas yr ardal a phaned a chacen yn yr ystafell ddehongli hwylus y tu ôl i'r tŷ.
Bydd hon, gobeithio, yn adnodd gwerthfawr iawn i'r gymuned leol yn ogystal ag i ymwelwyr o bell ac agos.
 |