BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Sioned ag Arwel Jones Gwobr Amaeth-Amgylcheddol 2003 i Dalymignedd Isaf
18 Medi 2003
Ffordd beryglus, gul a throellog iawn yw honno sy'n mynd i fyny o Nantlle i gyfeiriad Rhyd-Ddu.
Rhwng ceisio cadw llygad am geir yn dod i'ch cyfarfod ac edmygu'r olygfa ysblennydd o'r mynyddoedd, mae'n hawdd colli golwg ar y caeau wrth yrru ar ei hyd.

Go brin, er hynny, fod neb heb gael ei lygad-dynnu gan y pictiwr o fferm, Talymignedd Isaf, sy'n addurn ar y tirlun ar yr ochr dde i'r ffordd.

Mae'n werth oedi i sylwi'n fanylach ar y fferm fynyddig hon, ar y modd y mae'r holl adeiladau'n gweddu i'w hamgylchedd, ar y defnydd o gerrig a llechi yn y waliau, ar safon y gwrychoedd a'r gatiau derw newydd, dros 40 ohonynt, sydd wedi eu gosod yno.

Gwnaed llawer o'r gwaith adeiladu, yn ogystal â ffensio hyd lannau'r afonydd a chau allan y coedlannau a'r gwlyptir rhag y gwartheg a'r defaid, yn ystod y tair blynedd diwethaf o dan gynllun tir Gofal a chyda nawdd Farming Connect.


Am eu hymdrechion i gyfuno gofal am yr amgylchedd a hybu bioamrywiaeth gyda chynhyrchu stoc o safon uchel iawn ar eu fferm 1600 o aceri mae Arwel a Sioned Jones, Talymignedd Iwaf wedi ennill gwobr arbennig iawn, sef Gwobr Amaeth-Amgylcheddol 2003.

Gwobr a drefnir ar y cyd gan Gyngor Gwlad Cymru a Chymdeithas Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yw hon, ac roedd 19 o ymgeiswyr o bob cwr o Gymru yn cystadlu amdani eleni.

I ddathlu canmlwyddiant y Sioe Amaethyddol y flwyddyn nesaf cyflwynir gwobrwyon arbennig. Bydd y pum enillydd blynyddol er sefydlu'r gystadleuaeth yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am deitl 'Pencampwr y Wobr Amaeth-Amgylcheddol'.

Llongyfarchiadau i deulu Talymignedd Isaf ar eu camp eleni, a phob lwc iddynt y flwyddyn nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy