|
Daeth tua hanner cant o bobl a phlant ynghyd i Gapel y Groes, Penygroes ddydd Sadwrn, 8 Gorffennaf i wneud eu rhan yn yr ymgyrch Brydeinig i guro record y byd o'r nifer o ddrymwyr yn drymio ar yr un pryd.
Tipyn o hwyl wrth waldio sosban, ond, yn bwysicach, bloedd uchel dros degwch i wledydd tlawd. Yno i gefnogi'r digwyddiad llwyddiannus hwn, (y ddeiseb ddrymio gyntaf erioed!) roedd Alun Ffred Jones, A.C. a'r Cynghorydd Dyfed Edwards.
Mae'r ymgyrch Dal i Guro yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi'r gorau i ariannu Banc y Byd a'r IMF hyd nes iddynt ddiwygio eu polisïau. Mae'r ddau sefydliad hyn yn gwthio masnach rydd ar wledydd tlawd ac yn gosod amodau ar fenthyciadau a dileu dyledion, ac yn gorfodi gwledydd tlawd i ymuno
a ffyrnigrwydd y farchnad fyd-eang lle mae'n rhaid brwydro i gystadlu. Ac wrth gwrs, y rhai mwyaf bregus sy'n dioddef mewn marchnad o'r fath.
Mae Cymorth Cristnogol yn galw ar Fanc y Byd a'r IMF i ddilyn esiampl y D.U. sydd wedi cyhoeddi yn 2005 na fyddai bellach yn gorfodi amodau ar fenthyciadau i wledydd tlawd.
Aeth nifer o Wynedd i Gaeredin ym mis Gorffennaf y llynedd ac 'rydym yn benderfynol o fynnu atebolrwydd gan y sefydliadau rhyngwladol yma" meddai Judith Humphreys, un o'r trefnwyr ym Mhenygroes. "Mae Llywodraeth y D.U. wedi gwneud dechreuad da, ac mae'n hen bryd i Fanc y Byd a'r IMF wneud yr un fath". "Mae Banc y Byd a'r IMF yn fwlis rhyngwladol" meddai Justin Macmullan, pennaeth ymgyrchoedd Cymorth Cristnogol. Maent wedi gorfodi gwledydd tlawd i ddilyn polisïau sydd wedi eu gwneud yn dlotach."
Newid ffyrdd y bwlis rhyngwladol oedd nod y drymwyr ym Mhenygroes a thros Brydain, ac efallai, dorri record y byd hefyd.
 |