Doeddwn i ddim yn feiciwr, ond nes i'm meddwl ddwywaith pan gynigiodd Dad mai'r ffordd orau i ddod i nabod y Brydain fawr yma oedd ar gefn beic.Mi o'n i newydd ddod nôl o Affrica ac yn sylweddoli pa mor ddiarth oedd ochr yma o'r byd i mi. I Llundain, Manceinion, Lerpwl a Chaer - bron iawn yr unig Iefydd faswn i'n gallu eu rhoi ar fap o'r deyrnas ar wahân i'n hannwyl Gymru, wrth gwrs.
Dim un dref arall, dim un sir, dim un mynydd, dim un afon, dim un castell, digon o reswm dros ddioddef pen ôl sôr.
Ar wahân i ddau ddiwrnod chwyslyd, un ym Mhenllyn ac un yn Sir Fflint, wnaethom ni ddim ymarfer a gan nad oedden ni yn hollol ffyddiog y basen ni'n gorffen y peth, wnaethom ni ddim mynd ati i gasglu pres. Felly, ar ôl tynnu coes diben draw gan bobl yn mynnu bod ni'n gwneud y daith ar yr adeg anghywir o'r flwyddyn (mis Hydref!) heb sôn am y pen anghywir o Brydain (Fasa dod lawr down hilI o John o'Groats ddim yn haws na mynd fyny o Lands End), dyma ddechrau yng Nghernyw ar brynhawn dydd Sadwrn heulog.
O gofio nôl, maen mynd i fod reit hawdd cadw digwyddiadaur tair wythnos i fewn un golofn o LLEU achos mi oedd pob diwrnod yn debyg iawn - deffro, beicio, bwyta, beicio, bwyta, cysgu, deffro, beicio, bwyta, beicio, bwyta, cysau, deffro. Ond erbyn cyrraedd yr Alban mi oedd y coesau yn pwmpian fath â dau biston a'r milltiroedd yn gwibio heibio wrth i ni ddilyn oglau whisky a geiria Robert Burns, oedd yn atseinio ar hyd walia hynafol.
Ynys Aran, Mull of Kintyre, Ben Nevis, Loch Ness, llefydd ar lwybr oedd yn araf gael ei hoelio mewn aur ar y cof. Ac o fewn dim mi oedden ni yno, yn John O'Groats, wedi pedlo dros 1000 o filltiroedd. Ond, efo deuddydd i sbario mi benderfynodd Dad fod yna le i fynd yn bellach i'r Gogledd, felly, dyma ddal fferi i Ynysoedd yr Erch (Orkneys).
Mi oedd yr ynysoedd yma yn goron ar yr holl daith. Ac er ein bod ni wedi methu sioe anhygoel y northern lights ddwy waith (tra'n gwylio teledu yn yr ystafell wely!), mi o'dd yr haul yn dal i wenu'n ysgafn hyd at y bora ola, a chawsom ni bron dim glaw yr holl fford i fyny. Mi alla hi yn hawdd fod wedi bod yn stori wahanol - gwlypach, oerach.
Dan ni nôl yn Llandwrog rwan. Does na ddim rhyw deimlad o falchder na gorchest fawr, dim ond fod y ddau ohonom yn cerddad reit ryfadd. Mi geith y beic aros yn y garej am sbelan, ond ma na ormod o lefydd diddorol i'w darganfod cyn y bydd o'n dechra cael rhydu.