Cafwyd cychwyn ardderchog i'r wythnos wrth i 29 0 feicwyr selog reidio bron i 40 milltir i fyny allt Drws y Coed, ymlaen drwy Feddgelert, Tremadog, Cricieth, Bryncir ac adref yn ôl i Benygroes. Fore Sadwrn hefyd, yn Llyfrgell Penygroes, daeth llawer o'r plant i gael stori a pheintio wynebau a chael mynd adref wedi gwneud gwaith celf gwerth ei weld.
Dydd Sul yng Nghaernarfon, enillydd y twrnament golffio oedd Sion Williams.
Nos Lun daeth bron i 100 o blant i Neuadd Goffa Penygroes i ddawnsio i ddisgo Owain Llŷr o Champion 103.
Nos Fawrth, a'r haul yn gwenu, enillwyd yr Helfa Drysor flynyddol gan griw o bobl ifanc leol sef Bethan, Ffion, Dewi a Iestyn.
Nos Iau, Mei Mac oedd y Meuryn yn Nhalwrn y Beirdd gyda 3 thîm yn cystadlu. Yn cadw trefn ar bawb roedd Alun Ffred Jones AC ac ef hefyd oedd yn cadw'r sgôr. Ar ddiwedd yr ornest roedd Tîm Ifan Glyn, Tîm Cynan Jones a Thîm KO yn gyfartal.
Prin yr oedd yn bosib mynd i mewn i dafarn y Goat am 9.00yh nos Iau gan fod tyrfa wedi troi allan i'r cwis dan ofal y cwisfeistr Dewi Rhys. Tîm 'Dim Clem' oedd y buddugwyr a phawb wedi bihafio, mae'n rhaid, oherwydd ni welwyd yr un cerdyn melyn ar y noson!
Roedd hi'n full house nos Wener yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle i'r noson Bingo teuluol. Wena'n galw a digon o wobrau wedi eu hennill gan bawb.
Uchafbwynt yr ŵyl bob blwyddyn yw'r Sbri yn Sgwar y Farchnad Penygroes.
Roedd pob math o stondinau - digon o bethau i'r ardd, dodrefn, cacennau; rafflau, barbiciw, gemau - i gyd i sŵn hyfryd Band Arian Dyffryn Nantlle.
Enillwyr y gystadleuaeth gwisg ffansi oedd Gwion a Ceris wedi gwisgo fel Peter Andre a Katie Price! Yn yr adran iau, Cynan enillodd wedi dod fel Dennis the Menace.
Daeth 40 o fotobeicwyr ar y rali oedd yn cychwyn o Dalysarn am 11. 00 fore Sul gan gyrraedd yn ôl mewn pryd i weld Alan Evans yn ennill y twrnamaint bowlio yng Nghlwb y Cyn-filwyr yn hwyr y prynhawn.
Mae Geraint Thomas a'i fyfyrwyr o ddosbarth nos Ffotograffiaeth Ddigidol Coleg Harlech WEA wedi bod yn garedig iawn yn gwerthu eu lluniau er budd yr ŵyl. Gallwch weld y lluniau yng Nghanolfan Dechnoleg Antur Nantlle Penygroes. Mae cyfle i bawb archebu copi am £12 yr un wedi eu mowntio. Bargen!!
Bu'n wythnos brysur, fyrlymus ac amrywiol iawn, a dymuna'r pwyllgor ddiolch i bawb fu'n noddi, cyfrannu a chefnogi'r ŵyl eto eleni. Mae dros £5,000 yn barod wedi ei gasglu tuag at yr apêl.