BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Gardd Plas Gwilym Gardd Newydd Sbon i Blas Gwilym
Ionawr 2003
Daeth Dafydd Iwan i Gartref Plas Gwilym i agor gardd arbennig iawn...
Ar 19 Hydref bu dathlu ym Mhlas Gwilym pan fu Dafydd Iwan yno i agor yn swyddogol ardd newydd ddeniadol. Crwyd yr ardd ar lain o dir sydd i'w weld o'r coridor hir ble bydd amryw o drigolion y cartref yn dewis eistedd yn ystod y dydd. Trawsffurfiwyd y llain tir trwy osod slabiau i wneud patio lle gall y trigolion eistedd i fwynhau'r awyr iach ac adeiladwyd gwelyau blodau a'u plannu gyda phlanhigion bythol i roi lliw a diddordeb trwy'r flwyddyn.

Ymgorfforwyd llwybrau llydan o amgylch ynys hirgron wedi eu dyrchafu i lefel cadair olwyn ac wedi ei phlannu â phlanhigion persawrus ac â chyffyrddiad arbennig iddynt. Yn ogystal, cynhwyswyd nodwedd ddwr bas gyda cherrig i roi'r argraff o swn a symudiad i'r ardd.

Yn y gorffennol ni fu modd i'r trigolion gael mynediad i'r tir o amgylch y cartref oherwydd fod yr wyneb yn anwastad a pheryglus a daethpwyd âr anhawster hwn i sylw WHA Healthcare yng Nghaerdydd a gytunodd i gyfrannu rhodd o £2,500 o Gronfa Elusen y Gymdeithas tuag at y gost o ddarparu llecyn addas i'r trigolion i'w fwynhau yn yr awyr agored.

Cytunodd Alan Patterson o Garmel, sy'n ymwelydd rheolaidd â Phlas Gwilym a hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli WHA Healthcare i ddylunio a darparu cynllun ar gyfer yr ardd a chynorthwyodd Lilian Williams a Margaret Roberts, Rheolydd ac Is-reolydd y Cartref, i gydgordio'r prosiect. Yn ogystal, gwahoddodd fusnesau a mudiadau lleol eraill i gyfrannu tuag at y fenter.

Mewn ymateb, cyfrannodd Hanson Brick, Caernarfon gyflenwad o frics ac fe'u cludwyd i Benygroes yn rhad ac am ddim gan Redland Distribution; cyflwynodd y Llewod dair mainc a gafodd eu gwneud yn arbennig mewn gweithdy i'r anabl, Pinewood Products a reolir gan Gyngor Conwy. Cyfrannodd Y Ford Gron swm o £200. Derbyniwyd cyngor ar y plannu gan Ganolfan Arddio Fron Goch a chafwyd cefnogaeth gan Gyngor Gwynedd a ddarparodd y slabiau a'r planhigion, yn ogystal âr nodweddion angenrheidiol i gydymffurfio â'r rheolau iechyd a diogelwch caeth.

Gwahoddwyd perthnasau a ffrindiau'r trigolion i fynychu'r agoriad yn ogystal â chynrychiolwyr o bob mudiad a gefnogodd y fenter a threfnodd y staff wledd o luniaeth ysgafn. Yn dilyn yr agoriad swyddogol a'r cyflwyniad o'r siec gan WHA Healthcare gan y Cadeirydd, Dewi Williams, bu pawb yn mwynhau Dafydd Iwan yn canu rhai o'i ganeuon, ac yn ogystal, darparwyd adloniant gan Fand Dyffryn Nantlle.

Er i'r agoriad swyddogol gael ei ddal yn ôl tan yr Hydref gwnaed defnydd helaeth o'r ardd dros gyfnod o rai wythnosau cyn hynny pryd y bu'r trigolion yn mwynhau gweithgareddau fel bingo awyr agored. Bydd teulu estynedig Plas Gwilym yn siwr o fwynhau llawer mwy o ddyddiau dedwydd tra'n mwynhau'r cyfleuster newydd yma.

Dywedodd Lilian Williams, Rheolwr Plas Gwilym fod yr holl staff, ac wrth gwrs y trigolion yn hynod ddiolchgar i WHA Healthcare am eu haelioni ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i wneud y fenter yma mor llwyddiannus. Gwerthfawrogir cefnogaeth Dafydd Iwan, nid yn unig ar y diwrnod agor swyddogol ond hefyd am bob cymwynas yn y gorffennol.

Yn yr un modd, dymuna'r staff gyfleu gwerthfawrogiad am bob cefnogaeth gan Olwen Elis Jones, is reolwr Uned Breswyl a Dydd Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy