BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Post Llanwnda Diwedd cyfnod
Rhagfyr 2008
Daeth diwedd ar gyfnod hir yn hanes un teulu lleol wrth i ddrysau'r Swyddfa Post yn Llanwnda gau am y tro diwethaf ar Dachwedd 7.

Mae pedair cenhedlaeth o deulu Enid Edwards wedi bod yn gwasanaethu trigolion yr ardal am dros ganrif - ac wedi bod yn dystion i newidiadau mawr yn y ffordd o fyw.

Ymgartrefodd John Evans Williams a Mary Evans yn Llanwnda yn dilyn eu priodas ym 1905, a chadw'r Post am ddeugain mlynedd.

Bu blynyddoedd yr ail ryfel byd yn rhai prysur tu hwnt yn adeilad y Post, a gorfu i Mary ddod a'i gwely i'r ystafell ffrynt ble'r oedd y Gyfnewidfa Teleffon wedi'i leoli, ac yn brysur, a'r angen i gysylltu galwadau ffôn a'r camp milwrol yn Llandwrog ar bob awr o'r dydd a'r nos.

Yna trosglwyddwyd yr awennau i'w merch, Daisy Lloyd Williams, a'i gŵr William Henry Owen. A'u plant hwythau, Phyllis a John, hefyd yn gweithio'n galed i gynnal y busness.

. Ac yna daeth Phyllis i gymryd cyfrifoldeb dros y Swyddfa Post ym 1978, a dyna pryd y daeth Enid i weithio yn achlysurol gyda'i mam.

Wrth gwrs roedd yna sawl gwasanaeth yn cel eu cynnig o'r adeilad, gan gynnwys siop brysur.

Cofia Enid fel yr arferai y cwsmeriaid adael eu rhestrau ar fore Iau, a hithau wedyn yn dod i helpu ei mam drwy ddanfon y negesau ar ôl dod gartref o'r gwaith y noson honno.

"Dwi'n cofio hefyd ers talwm pan oedd yna negeseuon telegram yn cael eu derbyn fesul lIythyran ganddon ni yn y Post. A mynd bob diwrnod Dolig, yn ddiffael, i Blas Dinas i ddanfon y telegram efo'r dymuniadau da."

Daeth Enid i weithio yn lIawn amser yn y Swyddfa Post ym 1993, ac mae ganddi atgofion melys am y cyfnod o 15 mlynedd a dreuliodd y tu ôl i'r cownter.

"Dwi wedi mwynhau'r gwmnïaeth, a'r sgwrsus difyr efo'r cwsmeriaid ar hyd y blynyddoedd. Ac ma'r cwsmeriaid wedi bod yn ffyddlon iawn i mi. "Mi fydda i'n gweld isho'r ffrindiau da sydd wedi bod yn dod yma dros y blynyddoedd."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy