Dechreuodd y clwb adennill llwyddiant y llynedd. Roedd criw bach, ond gweithgar, yn ymgasglu gan bery fod eu presenoldeb yn amlwg yng nghystadleuaeth amrywiol mudiad y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn Eryri. Daeth y clwb yn 2il ar ddiwrnod y Rali, camp anhygoel o feddwl oed a nifer yr aelodau. Yn ystod y flwyddyn yma mae llwyddiant wedi magu ar lwyddiant. Rydych eisoes wedi clywed am lwyddiant y clwb yn ennill y cystadlaethau barnu a'r eisteddfod gan wneud sioe dda iawn ohoni yn y gystadleuaeth bowlio deg yn ogystal.
Bu'r criw o'r clwb yn cynrychioli'r sir yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn y de ac mi fu yn daith fythgofiadwy yn ôl i fyny 'nôl i'r gogledd efo'r genod yn ein difyrru ni yr holl ffordd!
Wedi hynny, enillodd un tîm o'r clwb y gystadleuaeth cwis gan ddangos fod brêns yn y clwb yn ogystal â thalent eisteddfodol a barnu anifeiliaid.
Llongyfarchiadau i'r tîm Daniel, Mari, Emrys, Bethan a Guto Rhys.
Yn ogystal cafwyd llwyddiant diweddar mewn cystadlaethau dartiau a pwl. Diolch i fyfyrwyr Glynllifon am adael i ni gael ymarfer efo nhw.
Daeth yr aelodau a rhai rhieni ynghyd cyn y nadolig i ddathlu llwyddiant y clwb. Cafwyd noson hwyliog, pryd cafwyd cyfle i ddiolch i'n harweinwyr, sef Nesta Griffiths ac Ifan Caerloda a hefyd i Anti Elen, Pengwern a Glenda Ffridd am eu cymorth a'u cefnogaeth dibendraw.
Ar ôl y Nadolig bu'r clwb yn ddigon ffodus i ymweld ag Ian a'r hogia yn Express Motors pryd y cawsom gyfle i glywed straeon rasio ralïau ceir. Wel sôn am noson dda a diddorol; pwy fyddai'n meddwl fod cymaint o waith, egni a brwdfrydedd, heb sôn am gostau, yn mynd i baratoi ar gyfer y ralïau. Hoffem ni i gyd ategu'n diolch roddwyd i'r hogia am noson mor ddifyr.
Ar hyn o bryd mae'r aelodau wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth siarad cyhoeddus, cewch glywed sut yr aeth hi yn y rhifyn nesaf o Lleu.
Yr amrywiaeth o weithgareddau sydd i ddilyn am weddill y flwyddyn hon yw cystadleuaeth weldio, gyrru motor beic pedair olwyn, aelod y flwyddyn, cystadlaethau celf a chrefft ac, wrth gwrs, diwrnod mawr y rali. Diwrnod llawn o gystadlaethau amrywiol. Ac, wrth gwrs, ein nosweithiau o adloniant difyr !!!
Unwaith eto, 'rydym yn agor y drysau led y pen ar gyfer aelodau newydd ac, efallai, i gyn-aelodau newydd ac, efallai, i gyn-aelodau i ail ymaelodi â ni. Rydym yn cwrdd yn Ysgol Dyffryn Nantlle bob nos Lun am 7.30. Mae croeso i unrhyw un ddod atom.
Byddai'r clwb yn hynod ddiolchgar am unrhyw nawdd a ellir ei gynnig. Mae'r arweinyddion yn fwy na bodlon i roi o'u hamser yn wirfoddol, ond, mae cynnal clwb o'r fath yn costio. Efallai fod rhai o ddarllenwyr Lleu yn gwybod am ffynonellau ariannol a allai ein cynorthwyo. Er mor werthfawr yw cyfraniad y clwb i'r Dyffryn a'r ardal, diwedd pob cân yw'r geiniog.