Hwn oedd y cloc a'r proffwyd tywydd y gellid dibynnu arno, ac yr oedd y ffaith ei fod o'n ddibynadwy ac yno o hyd, fel ffrind, yn rhyw fath o gysur. Pan ddistawodd yn y 60au bu'n dipyn o golled i lawer, a theimlwyd hiraeth ar ei ôl. Yr oedd corn, sef hooter yn amryw o chwareli eraill y cylch, ond nid oedd eu sŵn yn cyrraedd fawr pellach na therfyn y chwarel. Yr oedd Corn Mawr Dorothea, fodd bynnag yn llawer cryfach ac yn swnio fel pe bai'n ddwbl. Clywid sŵn hwn o un pen y dyffryn i'r llall ac weithiau ymhellach.
Cefais ar ddeall yn ddiweddar mai Corn Caniad y gelwid ef gan rai o'r trigolion yn Nhalysarn, ond, i ni ym mhen uchaf y Dyffryn, Corn Mawr Dorothea, a thros y bwlch yn Rhyd-ddu, Corn Nant y'i gelwid. Gwir bwrpas y cyrn hyn oedd cadw cysylltiad â'r chwarelwyr a fyddai'n gweithio yn nyfnderoedd y pyllau, ar wyneb y graig yn y siediau neu ar y tomenni rwbel. Hysbysai'r cyrn hwy o amser gwaith, egwyl i fwyta, amser tanio'r graig, ac yn y blaen. Oherwydd cryfder caniad Corn Mawr Dorothea daeth cannoedd o fewn cylch eang i ddibynnu arno, yn "ffarmwrs", yn wragedd tŷ^ a "gweithiwrs" nad oeddynt yn "chwarelwrs". Byddai eu diwrnod gwaith hwythau hefyd yn cael ei reoli gan y Corn Mawr. Yr oedd yn ddigon hawdd gwahaniaethu rhwng ei ganiad yn y bore, ganol dydd a'r hwyr ac fe fyddai hefyd yn canu am naw, deg ac un-ar-ddeg y bore a dau a thri y prynhawn.
Pan oedd fy nhad yn blentyn ac yn byw yn Nhan y Bwlch, Drws-y-coed ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle, ac yng ngolwg y corn, fe ai oddi yno dros y mynydd i ysgol Rhyd-ddu lle roedd Pari'r Sgŵl (tad T.H. Parry Williams) yn brifathro. Wrth ddod adref o'r ysgol un diwrnod a cherdded heibio Llyn Dywarchen a thrwy Fwlch Cul-fin yn ôl i'r Dyffryn, a thraws y caeau am adref, dysgodd, fodd bynnag, y gellir gweld a'r llygad yn gyflymach na chlywed a'r glust, fod yna rywbeth oedd yn gyflymach na sŵn. O'r fan honno gallai weld yr ager (stêm) yn codi o Gorn Mawr Dorothea, a dyna lle y byddai'n cyfrif yn araf bach .. un, dau, tri ... ac i fyny i chwech neu fwy cyn y cyrhaeddai sŵn y corn ef. Yr oedd o leiaf bedair milltir i ffwrdd o'r Corn Mawr ac fe gymerai ei sŵn chwech i ddeg eiliad i gyrraedd.
"Fe chwyth y gwynt lle y mynno" meddai'r adnod. Pan ddeuai'r gwynt i fyny'r Dyffryn o'r de orllewin byddai'r Corn Mawr ar ei uchaf ac yn arwydd sicr fod y glaw ar ei ffordd o Ddinas Dinlle. Llawer tro y clywyd rhai o drigolion Cwm Pennant yn dweud pa mor falch oeddynt hwy o glywed sŵn Corn Dorothea. Arwydd oedd hyn iddynt hwy fod tywydd braf ar ddod. Pan chwythai'r gwynt o'r gogledd ddwyrain, a chorn Chwarel Llanberis i'w glywed, roedd yn arwydd sicr o wythnos fan leiaf o dywydd poeth yn Nrws-y-coed, h.y. os haf fyddai, ac os byddai i'w glywed tua diwedd Mehefin, dyna hwylio'n brysur i gneifio.
Os clywid y corn ym mis Gorffennaf neu Awst, codi'n fore a mynd ati gyda hyder i ladd cymaint o wair ag a fyddai'n bosibl. Os mai yn y gaeaf y clywid ef, deuai llawer o ddyddiau heulog, nosweithiau oer a rhewi'n galed.
Dyna beth oedd gan fy nhad i'w ddweud, pan adawodd Dalysarn a mynd yn ei ôl i fyw i'w hen gynefin. "Ohonynt i gyd, yr Hen Gorn Mawr oedd fy ffefryn i, a dywedaf pam. Ar ôl imi briodi Annie, wyres Owen Roberts yr Injan Fawr, Dorothea, cefais y pleser o fyw yn Nhalysarn am chwe blynedd ac felly o fewn tafliad carreg neu ddwy i'r Hen Gorn. Roedd ei chwyth cryf yn feistr corn imi a'm cyd chwarelwyr a rhaid oedd ufuddhau i'w alwad awdurdodol.
"Chwe blynedd yn ddiweddarach, yn 1931, dychwelais gyda'm teulu bach i fyw i dyddyn yn Nrwsycoed. Yn wir i chi, dilynodd sŵn yr hen gorn ni, gan aros yn ffrind am 30 mlynedd arall cyn y distawodd am byth ar ôl, siŵr o fod, bron ganrif o wasanaeth i'r hen Ddyffryn annwyl. O na, cofiwch nad chwythu ei blwc oedd diwedd yr HEN GLOC MAWR DOROTHEA."