BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Alun Ffred Jones, AC yn arwain y daith Ymdrech a chwys
Mehefin 2008
Hanes yr hwyl a'r poen wrth i griw o feicwyr gymeryd rhan yn nhaith feics Gŵyl Fai.

Fore Sadwrn,10 Mai dyma 28 o feicwyr yn ymgynnull eto o flaen Eifionydd Farmers, y rhan fwyaf o'r criw yn hen ffyddloniaid, ac yn eu plith ambell i wyneb newydd dewr!

Ar ôl rhannu gofidiau am y daith o'n blaenau, tynnu lluniau a sgwrsio efo criw o gefnogwyr - dyma gychwyn ar yr her!

O Benygroes, a thrwy Dalysarn a Nantlle yn un criw ffres, a'r tywydd yn ffafriol iawn ar gyfer y daith. Dau yn arwain y ffordd mewn Golf gwyllt. Wrth dynnu i fyny allt droellog, hir, serth Drws-y-Coed, dyma wasgaru'r criw a'i gwneud yn amlwg pa feic a fu'n segur yn y sied ers blwyddyn!

Free wheel wedyn a sbel fer yn Rhyd-ddu i bawb ailymgynnull cyn troelli ymlaen am Fetws Garmon.

Dwy mewn fan tu ôl i'r criw yn rhybuddio'r gyrwyr diamynedd fod beicwyr ar y Iôn.

Cafwyd croeso a phaned yn y Snowdon Park Hotel yn y Waunfawr, ac ar ôl i bawb gael ei wynt ato, ail gychwyn i gyfeiriad Llanrug.

Dyma groesi'r sgwâr yn ddiogel a dringo allt serth eto ar gyrion Penisarwaun.

'Roedd pawb yn falch o'r dwr a'r rhew ym Mhen y Gaer, cyn pedlo 'mlaen tua Phentir. Pam, tybed, bu i rai fod yn hir yn cyrraedd y bwrdd cinio ym maes parcio'r Vaynol Arms? Sat Nav y beic wedi drysu?!

Erbyn hyn 'roedd pawb yn ddiolchgar iawn am y wledd oedd yn eu haros, ac ambell un yn torri syched gan fod yr haul wedi ymddangos!

Lôn fach ddieithr nesa, o Bentir i'r Felinheli, a gwair i lawr canol y ffordd, cerrig rhydd, beics yn bowndio a lot o ysgwyd!

Allan ar waelod Nant y Garth ac ymlaen trwy'r Felinheli ar hyd y trac. Heibio Plas Menai a'r hen Ferodo ac anelu tuag at y Bachgen Du! Rhaid oedd cael llymaid yn y gwres.

Trwy'r twnnel 0o Gaernarfon ar hyd Lôn Eifion, a blas mwy yn hwb i'r rhan fwyaf i bedlo'n gynt tuag adref a'r Goat ym Mhenygroes.

Braf oedd gweld y criw croesawus ar y bont. Braf hefyd oedd cael ymlacio a mwynhau ar ôl taith lwyddiannus.

Bore Sul, 11eg Mai

Sawl un o'r 28 oedd yn dioddef fore heddiw tybed? Beth oedd waethaf - y pen-ôl poenus neu'r penmaenmawr?

Dyna'r cwbl drosodd am flwyddyn arall, yr holl ymdrech a'r chwysu, a'r arian a gasglwyd tuag at achos teilwng iawn.

Diolch yn fawr iawn i bawb a tu'n ymwneud a'r daith feics mewn unrhyw ffordd.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy