|
Ac yn union fel noson Talwrn
y Beirdd, mae'r noson hon, gyda chwmnïau lleol yn perfformio, yn
llwyddo i ddenu cynulleidfa deilwng iawn.
Arweiniwyd y noson, yn ddeheuig fel arfer, gan Ifan Glyn Jones.
Yn cymryd rhan roedd Cwmni Brynrhos oedd yn cyflwyno 'Parasitiaid'
(addasiad Wenna Williams o Parasites gan Margaret Kynaston) gyda
Wenna hefyd yn cynhyrchu. Dyma'r bedwaredd waith i'r cwmni
berfformio'r ddrama hon. Buont eisoes yn cymryd rhan yng Ngŵyl
Ddrama Y Groeslon, Amlwch a Chorwen. Byddant hefyd yn cyflwyno'r
ddrama yn Theatr Y Maes yn Eisteddfod Y Bala fis Awst.
Wedyn, cawsom berfformiad o'r ddrama Genod Ni gan Gwmni Plant
Afradlon Talysarn, cyfieithiad gan aelodau'r cwmni a John Glyn Owen o
Doing it for Themselves gan Brian Brown. Rhys Richards oedd yn
cynhyrchu'r ddrama hon.
Braf yw gweld y diddordeb lleol yma ym myd y ddrama. Gobeithio'n wir
y bydd y ddau gwmni yn dal ati i berfformio, ac yn mynd o nerth i
nerth. A beth am i eraill ymroi ati i ffurfio cwmnïau drama yn yr
ardaloedd yma? Mae'n siŵr fod digon o dalentau heb orfod chwilio ymhell iawn. Diolch i bawb fu'n cymryd rhan, a diolch hefyd i bawb am eu cefnogaeth.
 |