Cyn ei phenodi bu Bethan yn Bennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus Heddlu Gogledd Cymru.
Mae hefyd yn enw
cyfarwydd fel darlledwraig, arweinydd a darlithydd.
Yn enedigol o Langollen ac yn ferch i'r diweddar Meirion Parry o Benygroes, cafodd Bethan ei magu yn Eifionydd gan fynychu ysgol gynradd Chwilog cyn symud i Ysgol Dyffryn Nantlle ac ymlaen wedyn i astudio'r gyfraith a newyddiaduraeth ym Mhrifysgolion Cymru yn Aberystwyth a Chaerdydd.
Roedd yn un o gyflwynwyr newyddion cyntaf S4C a bu'n darlithio am gyfnod yn Y Coleg Normal a Phrifysgol Cymru, Bangor.
Mae Bethan bellach yn byw ym Mhencaenewydd ac yn briod gyda three o blant.
Bydd gweithio yng Nghae'r Gors yn cynnig sialensiau gwahanol iawn i'r rhai wynebodd tra bu'n gweithio i'r heddlu, meddai, "Dwi'n edrych ymlaen yn arw at weithio mewn ardal sydd ddrws nesaf i'r un ble mae llawer o'm gwreiddiau teuluol.Cyn ei phenodi bu Bethan yn Bennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus Heddlu Gogledd Cymru.
Mae hefyd yn enw
cyfarwydd fel darlledwraig, arweinydd a darlithydd.
Yn enedigol o Langollen ac yn ferch i'r diweddar Meirion Parry o Benygroes, cafodd Bethan ei magu yn Eifionydd gan fynychu ysgol gynradd Chwilog cyn symud i Ysgol Dyffryn Nantlle ac ymlaen wedyn i astudio'r gyfraith a newyddiaduraeth ym Mhrifysgolion Cymru yn Aberystwyth a Chaerdydd.
Roedd yn un o gyflwynwyr newyddion cyntaf S4C a bu'n darlithio am gyfnod yn Y Coleg Normal a Phrifysgol Cymru, Bangor.
Mae Bethan bellach yn byw ym Mhencaenewydd ac yn briod gyda three o blant.
Bydd gweithio yng Nghae'r Gors yn cynnig sialensiau gwahanol iawn i'r rhai wynebodd tra bu'n gweithio i'r heddlu, meddai, "Dwi'n edrych ymlaen yn arw at weithio mewn ardal sydd ddrws nesaf i'r un ble mae llawer o'm gwreiddiau teuluol.
"Mae 'Cae'r Gors' yn ganolfan sydd yn cynnig cymaint i'r gymuned leol yn ogystal ag i'r genedl gyfan.
"A phleser fydd adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd yno eisoes."
Dywedodd Dewi Tomos, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cae'r Gors, "Rwy'n hynod falch i ni fedru penodi rhywun o gefndir a phrofiad Bethan.
"Edrychaf ymlaen at weld datblygiadau cyffrous pellach fydd yn adeiladau ar y sylfaen a osodwyd gennym.
"Rydw i'n ffyddiog y bydd Bethan yn gosod 'Cae'r
Gors' fel un o safleoedd treftadaeth bwysicaf Cymru."