BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Hen waith ar safle Eifionydd Farmers neu Wynnstay heddiw. Oes rhywun yn cofio? Yr hen a'r newydd
Awst 2007
www.nantlle.com
Os oeddech yn un o'r 10,500 fu'n ymweld â safle we Dyffryn Nantlle yn y mis diwethaf fe wyddoch fod yna amrywiaeth eang o'r hen a'r newydd i'w weld yno.
Os nad ydych wedi bod ar y safle eto darllenwch ymlaen i weld rhai o'r pethau sydd gan y safle i'w cynnig:
  • Rhestr busnesau - Beth am roi eich busnes ar y we yn rhad ac am ddim - cyfle gwych i gyrraedd marchnad newydd ac ehangu eich busnes. Mae ffurflen bwrpasol ar y safle i chi ei llenwi neu anfonwch eich manylion i sylw Grŵp Gwefan Dyffryn Nantlle yn y cyfeiriad isod.
  • Swyddi newydd lleal yn cael eu hysbysebu.
  • Lle ar y dudalen flaen i hysbysebu digwyddiadau Dyffryn Nantlle.
  • Swdocw (newydd bob mis)
  • Negesfwrdd - mae ymholiadau o Nebo a Rhosgadfan - fedrwch chi helpu?
  • Gemau
  • Ydych chi'n cofio Carnifal Penygroes ym 1978 a'r strydoedd yn llawn? Edrychwch ar nantlle.com i weld pwy oedd yn cymryd rhan.
  • Mae mynd allan i gerdded yn ffasiynol iawn. Mae darllenwyr Lleu eisoes wedi clywed am gynllun Camau Cudd sydd yn cynnig teithiau cerdded yn Nyffryn Nantlle. Yn awr mae cylchdeithiau gyda gwybodaeth leol yn ardal Nebo a Nasareth ar gael yn unig ar www.nantlle.com
  • Mae hel achau hefyd yn boblogaidd - rydym wedi cynnwys gwybodaeth o Gyfrifiad 1851 i'ch helpu i gwblhau'r Goeden Deulu. Dim ond peth o'r cynnwys sydd wedi ei restru uchod - mae lIawer mwy, wrth gwrs, ond rydym angen help eto i barhau i ehangu. Dewch a'ch hen luniau neu luniau cyfoes i ni. Ydych chi'n cofio hen straeon lleol fyddai'n ddifyr eu cofnodi? Oes gennych ddigwyddiadau sydd angen sylw? Oes 'na blant a phobl y Dyffryn ddoe neu heddiw wedi gwneud yn dda ac yn haeddu sylw'r byd? Cyfrannwch drwy [email protected] neu dewch a'ch cyfraniad i Grŵp Gwefan Dyffryn Nantlle, Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle, 20 Heol y Dŵr, Penygroes. LL54 6LR (01286) 882688.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy