BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleu
Mari Gwilym yn beirniadu'r wisg ffansi Y Dawnus, y Doniol a'r Bolgwn
Mehefin 2005
Daeth gweithgareddau Gŵyl Fai i ben unwaith eto a da yw cael adrodd iddi fod yn ŵyl hynod o lwyddiannus.
Fe godwyd dros £3,000 gan ein beicwyr 'ffit' a ffyddlon wrth iddynt fynd ar daith 40 milltir o Benygroes hyd at Lanaelhaearn, ymlaen i Nefyn a Phwllheli lle cafwyd stop am ginio hynod o flasus wedi ei baratoi gan Gwennie.

Ymlaen wedyn i ymweld ag un o wŷr enwog Penygroes sydd bellach yn berchen Tafarn y Plu yn Llanystumdwy sef Ian Parri, cyn padlo ymlaen i Fryncir ac yn ôl i Benygroes. Roedd yr haul yn gwenu ar hyd y ffordd ac roedd gwres yn y croeso a gafwyd yn y Goat ar ddiwedd y daith.

Diwrnod heulog eto i'r Twrnament Bowlio a'r barbiciw yn werth ei gael. Diolch i aelodau'r Clwb am eu cefnogaeth a llongyfarchiadau i Alan a Jonathan ar eu llwyddiant. Roedd llond yNeuadd Goffa o blant bywiog yn mwyhau'r Disgo nos Lun, ac ar nos Fawrth hyfryd o Wanwyn roedd drosgant o bobl a phlant yn crwydro strydoedd Penygroes yn ceisio datrys cliwiau helfa drysor Elwyn.

Ni lwyddodd y glaw i atal hwyl y Talwrn nos Iau gyda Mei Mac yn Feuryn teg iawn. Roedd y trefniadau eleni unwaith eto fel ag yn y deng mlynedd diwethaf, dan law ffyddlon ein Haelod Cynulliad Alun Ffred Jones. Hen sefydliad bellach hefyd ydyw Cwis Tafarn Gŵyl Fai dan ofal yr arch gwis feistr Dewi Rhys. Roedd 10 tîm yn cystadlu ar y noson a dim ond un neu ddau o'r cystadleuwyr gafodd 'gerdyn melyn'.

Nos Wener yn neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle roedd plant ysgolion y Dyffryn ar eu gorau yn diddanu'r gynulleidfa dan arweinyddiaeth Ifan Glyn Jones. Dafydd Wigley oedd llywydd y noson.

Cymysglyd oedd y tywydd bore Sadwrn i'r Sbri ond cafwyd cefnogaeth dda i'r gweithgareddau ac roedd digon o le yn y neuadd i'r stondinwyr. Cian wedi gwisgo fel Nodi ac Eben fel eliffant oedd enillwyr gwobrau'r gystadleuaeth gwisg ffansi - dewis anodd i'r beirniad Mari Gwilym.

Diolch i Pictiwrs Penygroes am gynnal noson ac hefyd i staff y Llyfrgell am drefnu nifer o weithgareddau yn ystod yr wythnos oedd yn cynnwys ymweliad Bethan Gwanas am sgwrs a phaned yn y llyfrgell a chystadlaethau amrywiol i blant.

Diolch i bawb arall sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw fodd i'r Ŵyl a sicrhau llwyddiant eleni eto. Os oes gennych syniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf neu am ymuno â'r pwyllgor cysylltwch â Wena ar 881103.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy