'Tybed' meddaf i wrthyf fy hun 'fod y criw yma wedi hen arfer â mynd i'r jêl ac yn gwybod yn iawn mai home from home sydd bellach yng ngharchardai y wlad, yn ôl Jeffrey?'Nerfus iawn ôn i, beth bynnag, ac yn chwys domen wrth feddwl am fynd i garchar Rhuthun. 'Mi fyddi di yn ôl reit' medda Meirion Bwrdd Dwr oedd yn digwydd eistedd yn y sêt tu ôl i mi. Mae'n rhaid fod o yn le go lew. Mae'r Parchedig O.R. Parry yno ers blynyddoedd'.
'Yn jêl?' medda fi.
'Yn Rhuthun mae o' medda Meirion, oedd erbyn hynny wedi stwffio llond ei geg o daffi triog Jên Bryn Neuadd.
'Hwre' fawr glywyd gan y brodyr Dafydd ac Ifan pan aeth y bws heibio heb arafu dim i arwydd mawr The Lodge, Llanrhaeadr SALE 50% Off Spring/Summer Collections ac ochenaid o ryddhad glywyd wedyn dros y bws gan Henry, gwr Mair, ac amryw o'r brodyr pan aethpwyd heibio i'r allfa Tweedmill Factory Outlet hwnnw sydd ar y ffordd rhwng Llanelwy a Dinbych.
'Dyna basio dwy (jêl beth bynnag)' medda fi wrthyf fy hun, gan ddotio at harddwch Dyffryn Clwyd drwy ffenestri y bws uchel cyffyrddus.Cyrraedd Rhuthun, a pawb bron yn gwneud bî lein am y caffis gosa i'r sgwâr i gael cinio neu banad dri, ac roedd 'na hen gladdu.Roedd Williams, y Post gynt, ar lwgu mae'n rhaid, yn ôl y platiad oedd ar y bwrdd o'i flaen o.
Am hanner awr wedi tri daeth symans i fynd i'r Jêl ac erbyn hynny roedd Morris Williams, Gorse Hill yn welw wyn. Rhywun (wna i ddim dweud pwy rhag i'r peth fynd pellach) wedi dweud fod cysylltiad teulu cydrhwng Morris a Coch Bach y Bala, y carcharor mwyaf nodedig fu mewn carchar erioed, ond rwy'n brysio i ddweud doedd dim sail i'r stori o gwbl.
Yn ein disgwyl yn drws i'n tywys ar y daith roedd Lowri. Roedd Lowri yn llawn brwdfrydedd a gwên fawr, ond yn ymddiheuro am ei Chymraeg ac o'r herwydd, yn dymuno traethu yn yr iaith fain. Wel, roedd pawb yn deall tipyn o Saesneg, ac i ffwrdd â ni, ond yn fuan iawn roedd Lowri wedi ennill ei lle, cydymdeimlad ac edmygedd pawb.
Wir i chi, hogiau, pe byddai Lowri yn warden y jêl mi fyddwn i ddigon parod i aros yno, yn hir iawn!
Ond byr oedd arhosiad pawb bron yn y celloedd oer a digroeso ac eithrio y rhai hynny oedd i mewn pan gaeodd Ceneth Thomas y drws yn glep nes bron rhoi trawiad i galon ambell un.
'Ardderchog', 'gwych' oedd yr ansoddeiriau gan bawb am y daith rownd y carchar ac eithrio y boi fu rhaid mynd i'r bath...Ond fu dim llawer o waith perswadio ar neb i fynd yn ôl i'r bws, ac i lawr y ffordd â ni i'r Hen Felin ar gyrion Dinbych i gael swper, a chafodd neb ei siomi. Platiad anferth o fwyd chwilboeth. Prin fod gan neb le i bwdin, ond bwyta pwdin fu rhaid ac yfed te neu goffi i orffen.
Adra erbyn wyth. Gwibdaith ardderchog ac addysgiadol iawn oedd barn pawb a dim ond deuddeg punt oedd y cwbl.Ond i Heulwen Jones, Rhandir Mwyn mae'r diolch am yr holl waith wnaeth hi yn trefnu pob peth.
R.W.