Roedd y môr yn dawel a'r cantorion, ynghyd â'u harweinydd Ceren Lloyd, yn dawel hyderus y byddent yn dychwelyd gydag o leiaf un wobr o'r ŵyl Ban Geltaidd a'r Oireachtas yn Donegal.
Gyda'r misoedd o ymarfer caled y tu ôl iddynt, deunaw o ganeuon yn loyw barod, y costau o £5000 wedi'u sicrhau, a'r trefniadau dan ofal Avril a Nesta, roedd gan y merched a'u cyfeilydd Gareth Jones bob rheswm dros edrych ymlaen at y cystadlu a'r hwyl ymhlith eu cyd Geltiaid, ond freuddwydiodd neb y byddent yn dod yn ôl gyda'r fath haldiad.
Dechreuodd pethau'n dda ar y nos Iau wrth iddynt gefnogi Aled Myrddin, enillydd Cân i Gymru a'i weld yn ennill cystadleuaeth Can Ban-Geltaidd 2008.
Diwrnod o ymarfer a siopa oedd dydd Gwener cyn cymryd rhan gyda holl gorau'r Ŵyl mewn cyngerdd yn eglwys St. Padrig, ac yna mewn neuadd ddawns anferth yn y gwesty cyn noswylio'n 'gynnar' am hanner nos er mwyn bod yn barod ar gyfer marathon y cystadlu drannoeth.
Roedd naw côr, o amrywiol faint a safon, yng nghystadleuaeth gyntaf yr Oireachtas (eisteddfod Wyddelig ei hiaith) yn canu caneuon cysegredig. Côr Glanaethwy aeth a hi, gyda Lleisiau Mignedd yn ail.
Yna, mewn cystadleuaeth i gorau merched 3 llais, dod yn fuddugol
allan o 7 ac ennill y tlws. Ar ôl cinio, ennill eto, ar y gystadleuaeth i
gorau deulais.
Cystadleuaeth yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd (ar safle arall) ddaeth nesaf, i
dri neu bedwar llais, ond fu dim llwyddiant yn hon. Fodd bynnag, ailgodwyd yr hwyliau pan ddaethant yn ail i gôr ifanc o'r Alban am y côr merched unsain.
Yna, daeth uchafbwynt yr Ŵyl Ban-Geltaidd, cystadleuaeth y Côr Agored. Y tro hwn, daeth Glanaethwy'n ail a dyfarnwyd Lleisiau Mignedd yn gyntaf am ganu dau ddarn, ac, yng ngeiriau'r beirniaid, yn enwedig am eu fantastic rendition o Benedictus Robat Arwyn. Dyna gyfanswm o 5 gwobr allan o 6 cystadleuaeth, gan gynnwys Prif Dlws yr Ŵyl.
Côr blinedig ond gorfoleddus a thrymlwythog o wobrau ddaeth adref o Donegal, a braint yw cael eu llongyfarch ar ran darllenwyr LLEU. Beth nesaf i'r côr? Yn ôl eu harfer, cefnogi'r eisteddfodau lleol, ac yna paratoi at Gyngerdd Mawreddog yn Neuadd Dwyfor yn yr hydref.