Da o beth yw nad oes un tymor pysgota 'run fath, ond un peth sy'n gyson drwy'r blynyddoedd yw cwynion y 'sgotwrs.
Doedd eleni ddim gwhanol! Yn ystod tymor 2006, dim dŵr ac felly dim eog a sewin oedd y testun. Eleni roedd digon o ddŵr ond y gwyn oedd dîm pysgod.
Ond fel y carlamai'r flwyddyn at ddechrau Medi roedd
sibrydion o Fae Caernarfon a'r Fenai bod nifer sylweddol o eog
wedi cyrraedd oddi ar yr arfordir. Ond wrth gwrs y gwyn erbyn hyn oedd fod y tywydd gwlyb wedi pasio a'r afonydd yn isel unwaith eto
felly dim pysgod!
I'r rhai sydd gyda gwybodaeth am fywyd yr eog a'r sewin yn y rhan
yma o'r wlad, mae sioe arbennig i'w mwynhau wrth edrych dros y
Fenai unai o ffordd Foryd neu, gwell byth, wrth sefyll ger Clwb
Hwylio Caernarfon.
Yr amser i fynychu yw rhyw bum awr ar ôl penllanw neu mewn geiriau eraill awr cyn distyll.
Pan fydd yr eog wedi cyrraedd o'i siwrna hir ac yn ogleuo llif y Seiont fe fydd neidio di-baid am gyfnod a all ymestyn am
rhyw ddwy awr. Mae yn un o arddangosfeydd gwyrthiol byd
natur, yn hollol ddi-dal ac ar ein trothwy.
Faint fydd yno'n gwylio? Wel neb bron ond y ni fel 'sgotwrs.
Er mwyn codi mwy o ymwybyddiaeth o beth sy'n digwydd yn erwau'r pysg yn ein bro rwy'n fwy na bodlon trefnu i fynd
gydag unrhyw un i ddangos yr uchod - ond wrth gwrs rhaid aros
nawr hyd at haf 2008.
At ganol Medi fe gafwyd cyfnod go wlyb ble cafwyd llif go dda.
Mewn rhyw bedwar diwrnod fe ddaliwyd, ar fy nghownt i, 27 0
eogiaid rhwng 6-9 pwys.
Be sy'n dda ydi gweld bod mwy o ddefnydd yn cael ei wneud bob tymor o'r enwair bluen.
Mae'n sicr fod llawer o'r darllenwyr wedi sylwi fod meysydd
parcio'r cymdeithas wedi bod yn llawn ddydd ar ôl dydd. Arwydd
sicr fod digon o eogiad o gwmpas.
Dyma nifer o'r rhai llwyddiannus - Dr Robin Parry, Llanberis, gyda phedwar, rhyw un neu ddau wedi eu cadw at y Nadolig ond rhai hefyd wedi cael eu dychwelyd i'r afon, i gyd rhwng 4-7 pwys.
Dafydd Davies, Caernarfon, dau tUa 7 pwys yr un.
James Carr, Llanrug, un am 7 pwys.
Malcolm Owen, Caernarfon, un am 8 pwys.
Gwyn Jones, Caernarfon, 4 rhwng 6-8 pwys.
Wyn Parry, Caernarfon, dau, y mwyaf yn 9 pwys - y trymaf hyd yn hyn. Hefyd gwelais sewin 7 pwys a ddaliwyd gan Wyn yn Mhont Rug, dyma'r sewin trymaf ers tro byd.
Clifford Thomas, Feliheli, dau, 4 a 6 phwys yr un.
Evan Humphries, Caernarfon, dau, 7 pwys yr un.
Minnau, wrth gwrs, hefo un am 6 phwys, ia gyda
phluen o Lyn Harri Parri, pluen Cascade maint dwbwl 8. Dwi'n cymryd archebion am y bluen ardderchog yma - ond mae cymaint yn disgwyl fel bod y rhestr aros yn faith!!
Drosodd ar y Llyfni mae pethau wedi bod yn galonogol iawn, yn
enwedig a dau dymor go symol wedi bod.
Eleni roedd heicliau o sewin i'w gweld yn y pyllau o bont Pontllyfni i lawr at y mor, nid wyf wedi gweld cymaint ers o leiaf
ddeng mlynedd.
Mae cryn waith wedi ei wneud dros gyfnod o chwe blynedd i adnewyddu cynefinoedd mannau claddu yn ardaloedd Talysarn, Nantlle a Drws y Coed. Rhaid hefyd i 'sgotwrs chwarae eu rhan a pheidio â chadw gormod o bysgod i'w rhoi yn y rhewgell.
Y ffordd orau yw cadw beth rydych yn bwriadu ei fwyta a rhoi'r gweddill yn ôl, er mwyn iddynt gael cyfle i fwrw grawn a sicrhau rhediadau da at y dyfodol.
Eto eleni ychydig iawn o dorgochiaid sydd wedi dangos eu hunain. Rwyf yn dyst i hyn gan fy mod wedi 'sgota Padarn gryn dipyn heb weld yr un.
Ond, ar y llaw arall, mae'r brithyll brown wedi bod yn ardderchog - cefais un dros 3 phwys ar 6 Medi, dyma'r brithyll trymaf imi ei weld na chlywed amdano o'r llyn yn fy nghyfnod cysylltiedig a'r Gymdeithas - record tybed - ond mae'n siwr y bydd rhywun yn gwybod yn well.
Rwyf wedi gwneud trefniadau i'r brithyll yma gael ei stwffio. Cefais wers byd natur arall gan fod y 'sgodyn yma wedi bod yn bwyta'n drwm ar lysywen bendoll - dyma'r tro cyntaf i mi sylweddoli fod rhain ar gael yn Llyn Padarn.