BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Cadeirydd Cymdeithas y Deillion, Jenkin Griffiths yn cyflwyno un o'r anrhegion i Gwilym Charles Williams ar ei ymddeoliad fel Cyfarwyddwr y Gymdeithas. Ffarwelio â Gwilym Charles Williams
Mai 2003
Cadeirydd Cymdeithas y Deillion, Jenkin Griffiths yn cyflwyno un o'r anrhegion i Gwilym Charles Williams ar ei ymddeoliad fel Cyfarwyddwr y Gymdeithas.
Daeth tua 70 o bersonau i gyfarfod arbennig yng Ngwesty Victoria Llanberis yn ddiweddar. Trefnwyd y cyfarfod gan Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru i ffarwelio â'r Cyfarwyddwr, sef Gwilym Charles Williams, ar ei ymddeoliad ar ôl 21 mlynedd o wasanaeth.

Wrth groesawu pawb yno dywedodd Jenkin Griffiths, Cadeirydd y Gymdeithas, fod Llanberis wedi ei ddewis fel lleoliad gan fod Gwilym yn hannu oddi yno. Yn wir roedd Gwilym eisoes wedi cael sylw gan y Prifardd R. Bryn Williams yn ei gerdd i Wauncwmbrwynog fel a ganlyn:
Daeth deugain addolwr i'r capel llwm
Rhai o'r gwastadedd a rhai o'r cwm;
Ac wrth dy fedyddio, Faban gwyn,
Cofiais am wynfyd y llethrau hyn.

Yn ôl a ddeallaf,' meddai Gwilym oedd y baban y cyfeirir ato yn y gerdd. Felly roedd Gwilym eisoes wedi cael sylw yn hanes yr ardal o'i ddyddiau cynnar, ond heddiw dyma reswm arall i'r ardal gofio amdano fel un a roddodd un mlynedd ar hugain o wasanaeth clodwiw drwy ei arweiniad i Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru.'

Yn ystod y cyfarfod daeth cyfraniad Gwilym yn glir wrth i'r amrywiol siaradwyr ddwyn i gof y datblygiadau yn ystod y cyfnod. Talwyd teyrngedau iddo gan lu o bobl, yn eu plith Arthur Rowlands ar ran y deillion, Tom Hughes ar ran y Pwyllgor Cyllid, Paul Brenneck ar ran RNIB, Glyn Tomos ar ran y Cynghorau, Mrs Jennie Rowland Jones ar ran Clybiau'r Deillion (mae 12 ohonynt dros Ogledd Cymru), Manon Williams, un o'r Swyddogion Adfer ar ran y staff, a chynigiwyd llwnc destun iddo gan Faer Bangor.

Pan gychwynnodd Gwilym yn ei swydd roedd y Gymdeithas wedi dathlu ei chan mlwyddiant ac yn edrych ymlaen at ddatblygu ac ehangu canolfan wybodaeth ym Mangor, a chael stiwdio recordio yno hefyd. Heddiw mae hyn wedi ei wireddu yn ogystal a chael Canolfan Casetiau Llyfrau Cymraeg yng Nghaerfyrddin.

Bryd hynny roedd Llys Onnen, sef cartref i'r deillion yn Abergele, gyda un Swyddog Adfer wedi ei lleoli yno. Heddiw mae Llys Onnen yn parhau ac mae'r Gwasanaeth Adfer, mewn cydweithrediad â'r Cynghorau Sir, hefo 5 o swyddogion yn gwasanaethu Môn, Gwynedd a Chonwy.

Y mae'r Ganolfan Adnoddau ym Mangor erbyn hyn yn cynnwys arddangosiad o offer a chymhorthion soffistigedig i'r gegin, y cartref a'r swyddfa, ac fe roddir hyfforddiant erbyn hyn i'r deillion cofrestredig i fanteisio ar gyfrifiaduron modern hefo meddalwedd sy'n siarad. Hyn oll i geisio adfer rhywfaint o'r hyder a'r annibyniaeth a gollwyd.

A ran pawb oedd yn bresennol a chyfeillion eraill oedd wedi cyfrannu at y dysteb, cyflwynwyd iddo deledu lliw llydan; peiriant fideo; peiriant DVD; copi o newyddiadur a gyhoeddwyd ar y diwrnod y cychwynnodd ar ei waith gyda'r Gymdeithas ynghyd â newyddiadur ar ddiwrnod ei ymddeoliad; ffeil o sylwadau a chardiau dymuniadau da nifer o ffrindiau; llun wedi ei fframio o'r Wyddfa o Ben Llyn a'r llyfr Cymru o Hud. Dymunwyd iddo ymddeoliad hir a hapus.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy