BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Band Deiniolen Buddugoliaeth i Gav a Band Llanbabs!
Ebrill 2005
Cafodd Band Deiniolen eu coroni'n Bencampwyr Ail Adran Bandiau Pres Cymru ddydd Sadwrn diwethaf yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, trwy guro 8 band arall o bob cwr o Gymru.
Bydd y band rŵan yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaethau Prydain yn Harrogate ym mis Medi. Mae'r fuddugoliaeth yma hefyd yn sicrhau fod y band yn derbyn dyrchafiad i'r Adran Gyntaf ym mis Ionawr 2006.

Oherwydd yr ymdrech arwrol o gychwyn yn blygeiniol am 5 y bore o Ddeiniolen, a disgwyl tan 4 y pnawn i gystadlu, fe brofodd y diwrnod yn un melys iawn a'r holl ymdrech yn werth chweil, gan ddod ac un o fuddugoliaethau mwyaf yn hanes y band.

Yn arwain y band ar y diwrnod roedd Gavin Saynor - y chwaraewr tiwba byd-enwog a gychwynnodd chwarae corn ym mand bach Deiniolen cryn dipyn o flynyddoedd yn ôl bellach, a hynny dan hyfforddiant Hefin Goronwy Jones. Diddorol oedd nodi fod yr hen olwyn wedi troi erbyn hyn, gyda Gavin yn arwain a Hefin yn chwarae rhan y 3ydd Cornet ar y llwyfan!

Roedd y fuddugoliaeth cymaint melysach gan fod y band wedi morio trwy ddyfroedd digon tymhestlog yn ddiweddar. Ar ôl y Nadolig bu rhaid i'r band ymateb i ymadawiad disymwth pedwar aelod, tra bu un arall yn gorwedd yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd am beth amser.

Yna, Wynne Williams, ein harweinydd arferol, yn gorfod camu'n ôl o'i ddyletswyddau arwain oherwydd salwch. Wrth lwc mae'r claf adref o'r ysbyty erbyn hyn ac yn ei ôl yn chwythu ei hochr hi ar y 'bac ro'.

Un arall o'n haelodau ffyddlon fu'n methu chwythu ers mis Awst y llynedd yw ein 2il Drombon arferol (a Rheolwr y Band) a hynny oherwydd salwch. Ein dymuniad yw cyflwyno'r fuddugoliaeth hon i Alan Pritchard - gobeithio y byddi'n gwella'n fuan Pritch mae pawb yn edrych ymlaen i'th gael yn ôl ar gyfer Harrogate.

Mae'r band yn canolbwyntio rŵan ar ein Cyngerdd Blynyddol - i'w gynnal yn Ysgol Brynrefail, Llanrug ar 29 Ebrill. Yn cymryd rhan gyda'r band bydd Iwan Williams (cyn-aelod o Fand Deiniolen, sydd bellach yn un o unawdwyr enwocaf y byd bandiau pres. Mae Iwan yn paratoi tuag at lawnsio ei CD gyntaf fel unawdydd yn fuan iawn). Hefyd fe fydd John Eifion Jones, Hogia'r Wyddfa, Annette Bryn Pari a Caryl Hughes yn ymuno â'r band. Fe fydd y cyngerdd yn cychwyn am 7 o'r gloch.

Y na fe fydd y band yn gweithio tuag at gyflawni y gamp driphlyg yn Eisteddfod Genedlaethol y Faenol ym mis Awst.

Am fwy o fanylion a newyddion am Fand Llanbabs, gweler: http://www.deiniolenband.org. uk


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy