BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Bro Eco'r Wyddfa O bydded i'r Eco barhau!
Medi 2006
Yr Eco Olaf? oedd pennawd digalon rhifyn diwetha'r Eco ddechrau'r haf. Wedi misoedd o waith llafurus yn gosod y papur bro, roedd y golygyddion yn teimlo nad oedd dyfodol i'r Eco ...
... oni bai fod mwy o bobl yr ardal yn gwirfoddoli i sicrhau ei ddyfodol.

Er mai nifer cymharol fechan o bobl a ddaeth i'r cyfarfod i gynnig eu cymorth ddechrau Gorffennaf, penderfynwyd y byddai'r Eco yn parhau am y tro.

Newyddion da yn wir - ond rhaid pwysleisio bod angen mwy o wirfoddolwyr a chymorth o hyd. Ar hyn o bryd, gosodir yr Eco trwy ddull hynod gyntefig, gyda siswrn a glud! Er mwyn symud gyda'r oes y nod yw derbyn meddalwedd cysodi papurau newydd arbenigol er mwyn hwyluso'r gwaith.

Bydd dau dîm golygyddol yn gysylltiedig a'r Eco - yn gosod a golygu bob yn ail a dylid gyrru unrhyw newyddion sydd i'w cynnwys yn rhifyn nesa'r Eco at y gohebwyr bro: Gavin Saynor, Penarth, Stryd yr Orsaf, Llanrug (gyferbyn â Stad Tal-y-bont), neu drwy e-bostio: [email protected]

Ni fydd modd gadael newyddion yr Eco yn Palas Print o hyn ymlaen.

Rhaid pwysleisio bod yr angen am fwy o gyfranwyr a gwirfoddolwyr yn dal i fodoli. Rydym yn ymbil arnoch, bobl ifanc yr ardal, i roi cymorth i ni er mwyn gwneud yr Eco yn bapur i'r holl fro.

Yr ydym yn awyddus iawn hefyd i dderbyn cymorth wrth hel straeon lleol ac i annog unrhyw un sydd â stori dda, neu syniad am golofnau newydd i'w gynnwys yn yr Eco. Mae croeso mawr i chi gysylltu â'r tîm golygyddol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy