|
Ar y cyntaf o fis Awst aeth aelodau Côr Meibion Dinas Bangor i Lorient yn Llydaw i gymryd rhan yng ngwyl fawr Geltaidd flynyddol y dref. Yr oedd y côr yn cynrychioli Cymru yn yr wyl. Cafwyd deg diwrnod hynod o brysur a llwyddiannus gyda nifer fawr o gyngherddau, weithiau mewn gwres cyn uchel â 100 gradd! Ar dair noson cymerodd y côr ran bwysig mewn tri chyngerdd gyda bandiau pibau o'r gwledydd Celtaidd a dawnswyr. Uchafbwynt pob noson oedd band pibau o Sterling yn yr Alban, band pres lleol a Chôr Bangor, y cwbl dan arweiniad James Griffiths, yn chwarae a chanu hefo'i gilydd a'r gynulleidfa o 10,000 yn gwirioni efo'r swn gwefreiddiol. Cynhaliwyd y cyngherddau hyn yn stadiwm bêl-droed enfawr Moustoir. Canodd y côr hefyd mewn sawl cyngerdd ar ben ei hunain yn Eglwys St. Louis, adeilad anferth a godwyd ar ddiwedd y rhyfel ar ôl chwalu'r eglwys wreiddiol gan y bomio didrugaredd a fu yn Lorient, oherwydd mai dyma bencadlys mwyaf llongau tanfor, yr U-boats, gan yr Almaenwyr. Nid oedd hi'n bosibl i bob aelod o'r côr fynd ar y daith ond aeth 44 a Gwilym Lewis yn cyfeilio, yn absenoldeb Lowri Roberts Williams, cyfeilydd y côr. Cynrychiolwyd ardal Eco'r Wyddfa gan Gwilym Jones, Gareth Jones, Bob Thomas, Gwyndaf Williams a Huw Harri Williams, o Fethel; Elwyn Jones a Robert John Williams o Landdeiniolen; Dafydd Ellis, Gwyn Hefin Jones ac Islwyn Jones o Frynrefail; Owain Myfyr Parry o Lanrug a Gwilym Evans o Lanberis. Yn ystod gweddill Awst yr oedd gan y côr ddau gyngerdd yn Llandudno a Bangor. Yn ystod Medi bydd y Côr yn canu unwaith eto yn Eglwys St. Ioan, Llandudno a hefyd ym Metws y Coed. Yn ystod y flwyddyn y mae'r Côr wedi bod yn hynod brysur hefo nifer fawr o gyngherddau. Bydd y côr yn cyfarfod yn Ysgol y Faenol, Penrhos, Bangor bob nos Fercher o 7.30 hyd at 9.30. bydd croeso i ymwelwyr ddod i wrando ac i ddarparu aelodau.
 |