BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Rol Williams a geraint Lloyd Owen yn y Caban, Brynrefail yn lansiad Nid Roc - ond Rol Lansio dau lyfr
Rhafyr 2007
O'r Llys i'r Garreg Fawr ac o Barc-y-Wern i Barc y Faenol. Dyna destunau dwy daith ryfeddol o ddiddorol a ddaeth o Wasg y Bwthyn yn ystod wythnosau olaf mis Tachwedd.
A dau o hogia bro'r Eco fydd yn tywys y darllenwyr ar y teithiau rheini; teithiau a gychwynnodd o fewn tafliad carreg i'w gilydd bron, ond teithiau a aeth a'r awduron ar lwybrau go wahanol ar brydiau.

Dilynwch un i'r Awyrlu ac i Ynys Enlli yn ystod cyfnod clwy traed a'r genau. Ewch gyda'r llall i gae pêl-droed Bolton Wanderers a llwyfan y Genedlaethol. Crwydrwch Gymru benbaladr gydag un i fwynhau nosweithiau llawen, ac i fynychu eisteddfodau gyda'r llall. Ond daw'r ddau a chwi'n ôl yn ddiogel wedi dwy daith fythgofiadwy i'w gwreiddiau yn y fro hon.

Ym Methel y lansiwyd llyfr Selwyn Griffith o Barc-y-wern i Barc y Faenol, ac y mae yntau'n dilyn y daith o fro ei febyd i lawr y lôn i faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol. Ond fel Rol Williams, mae yntau hefyd yn crwydro cryn dipyn oddi ar y ffordd uniongyrchol ac yn ymweld â phob ardal yng Nghymru i feirniadu mewn eisteddfodau, heb sôn am y gwledydd eraill y bu'n treulio gwyliau ynddynt.

Lansiwyd llyfr Rol Williams, Nid Roc... ond Rol, yn y Caban ym Mrynrefail. Dyma fro ei febyd, a dilynwch ei daith yr holl ffordd i'r Waunfawr. Mae cryn dipyn o oedi ar y ffordd, wrth gwrs, a chrwydro oddi ar y ffordd uniongyrchol!

Dyma ddau lyfr a ddylai fod yn hosan Nadolig pob un o ddarllenwyr yr Eco; heb anghofio Gwynfyd Gwaun Gynfi a gyhoeddwyd yn gynharach y gaeaf hwn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy