BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Dyfrig Evans yn actio yn y ffilm Llythyrau Ellis Williams
Rhagfyr 2006
Ffilm fawr dydd Nadolig ar S4C
Ychydig a feddyliai Ellis Williams, mab fferm Gors ym Mhenisarwaun, y byddai hanes ei fywyd yn cael ei droi yn ffilm ryw ddydd.
Darlledir Llythyrau Ellis Williams, dogfen awr a hanner o hyd a llinyn gerddorol gref yn rhedeg drwyddi ar Ddydd Nadolig ar S4C eleni. Mae'r ffilm a gynhyrchir gan Alun 'Sbardun' Huws a Sian Teifi, o gwmni Sianco, yn seiliedig ar gyfres o lythyrau go iawn a anfonodd Ellis i'w deulu pan orfodwyd ef i adael Cymru am Batagonia ac Awstralia.

Pan oedd yn 28 mlwydd oed cyhuddwyd Ellis Williams o botsio ffesant ar dir stâd y Faenol ac, yn ôl traddodiad, fe'i gorfodwyd i adael Cymru neu wynebu gweld ei deulu yn colli eu fferm, oedd yn eiddo i'r stâd.

Felly yn 1908 aeth i Batagonia i weithio fel gaucho. Mae ei lythyrau yn ôl at ei deulu yn sôn am ei fywyd caled gyda'r gauchos, yn marchogaeth hyd at 70 milltir y dydd ac yn byw am fisoedd o dan y sêr, a hynny mewn gwlad a oedd ar y pryd yn llawn dihirod.

Ellis Williams mewn lifrau Yna pan aeth pethau'n fain ar ffermwyr Y Wladfa, penderfynodd hel ei bac am Awstralia. Ond 'doedd pethau ddim yn hawdd iddo yno 'chwaith fel y tystia ei lythyrau cyson.

Daeth cysgod y Rhyfel Mawr yn 1914 ac anfonwyd Ellis i Ffrainc. Parhaodd i lythyru adref hyd y dydd hwnnw pan gafodd ei ladd ym mrwydr y Somme, ac yntau'n ddim ond 38 mlwydd oed.

Darllen yr hanes anhygoel yma mewn erthygl yn Eco'r Wyddfa ychydig flynyddoedd yn ôl a ysbrydolodd y ffilm.

"Fe ges i fy nghyfareddu gan y stori ac fe es ati wedyn i wneud mwy o ymchwil i hanes Ellis yn Archifdy Caernarfon," eglura'r cynhyrchydd, Alun 'Sbardun' Huws, a ddaw'n wreiddiol o Benrhyndeudraeth.

Cafodd y criw cynhyrchu gymorth parod gan nai uniongyrchol Ellis hefyd yn ystod y cyfnod ffilmio, sef yr awdur a'r hanesydd lleol, John Ellis Williams o Lanrug. Roedd Ellis Williams yn ewythr cyfan iddo gan fod ei dad, Joseff, yn frawd ieuengaf i Ellis a'r ddau ohonynt wedi eu magu yn Gors.

Bryn Fôn yw'r storïwr a fydd yn dilyn llwybrau Ellis Williams ar gefn motor-beic er mwyn ceisio dod i adnabod awdur rhyfeddol y llythyrau yn well, a phortreadir Ellis gan yr actor a'r canwr, Dyfrig Evans.

Mae'r ffilm hefyd wedi ailuno Alun Huws ac Emyr Huws Jones, sy'n cydweithio am y tro cyntaf ers 35 mlynedd ers dyddiau'r grŵp, Tebot Piws. Nhw sy'n gyfrifol am sgript y ffilm a hefyd am gyfansoddi'r gerddoriaeth wreiddiol, yn ogystal a chwe chân newydd a berfformir gan Heather Jones, Gwyneth Glyn, Gai Toms, Gwilym Morus, Sioned Mair a brodor arall o Benisarwaun, Ynyr Roberts.

Roedd Ynyr, sy'n un hanner o'r grŵp Brigyn gyda'i frawd Eirug, yn falch iawn o gael bod yn rhan o'r prosiect:

"Mae'n fraint cael canu cân er cof am rywun o Benisarwaun, yn enwedig a finnau wedi fy magu dafliad carreg o'r Gors, lle y bu Ellis yn byw, a hefyd yn gymydog i'w nai, John Ellis Williams, sy'n byw i lawr y lôn. Ro'n i'n ymwybodol o stori Ellis pan yn blentyn ac mae hi'n stori anhygoel a dwi'n falch iawn ei bod yn cael ei rhannu efo cynulleidfa ehangach drwy gyfrwng y ffilm yma," meddai Ynyr.

Bydd Ynyr a'r artistiaid eraill i'w gweld yn rhan weladwy o'r ffilm ac yn canu ar gyfnodau tyngedfennol ym mywyd Ellis, gyda thirluniau dramatig Patagonia ac Awstralia yn gefnlen iddynt.

Mae'r gerddoriaeth, sy'n gyfuniad o'r offerynnol a chaneuon, er mwyn adlewyrchu naws hanes Ellis, ar gael i'w brynu ar CD Llythyrau Ellis Williams.

  • Manylion teledu'r Nadolig

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy