BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Criw o Antur Waunfawr o flaen y beudy yn Sain Ffagan Antur Waunfawr ar antur
05 Tachwedd 2003
Mae'r gwaith o ail-godi hen feudy cerrig o'r Waunfawr, gafodd ei gludo i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, bron a dod i ben, a bu criw o Antur Waunfawr lawr i Gaerdydd i weld sut mae'r gwaith yn dod yn ei flaen ar yr hen adeilad.

Flwyddyn yn ôl yn yr Eco cafwyd storir beudy, sy'n dyddio nôl i'r 18fed ganrif, oedd am gael ei gludo i lawr yr A470 i Sain Ffagan.

Y bwriad oedd ei ailgodi wrth ymyl Llainfadyn, bwthyn a adeiladwyd yn Rhostryfan yn wreiddiol yn 1762, ond sydd bellach yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Amgueddfa. Erbyn hyn mae'r beudy wedi ei gludo fesul carreg i dde Cymru a'r gwaith ar y bwthyn yn mynd rhagddo. Nid yw'r to yn orffenedig ond gyda'r gwaith cerrig wedi ei orffen bydd yr adeilad yn gyflawn cyn hir ac yn gartref unwaith eto i fuwch a llo. Ac yn ystod mis Hydref bu gweithwyr Antur Waunfawr yn ymweld â'r amgueddfa yn Sain Ffagan i weld beudy Cae Gadda.

Croesawyd y grwp gan Gyfeillion yr Amgueddfa a'r gweithwyr oedd wedi bod yn dymchwel y beudy beth amser yn ôl. Darparwyd lluniaeth ac roedd cyfle i ymlwybro drwyr safle i edrych ar yr adeiladau a chreiriaur gorffennol yn ogystal â sylwi ar adeilad diddorol arall sef Ty y Dyfodol. Roedd hwn o ddiddordeb arbennig i'r gweithwyr yn enwedig o gofio y bydd adeilad gwyrdd cynaladwy newydd yn cael ei adeiladu ar safle newydd Antur Waunfawr yng Nghaernarfon yn y dyfodol.

Wedi treulio noson yn aros yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru ym Mharc Soffia, bu gwahanol grwpiau yn ymweld â'r Amgueddfa Genedlaethol, Stadiwm y Mileniwm, Bae Caerdydd, y Castell, trip ar fws to agored o gwmpas y ddinas, ac yn y canolfannau siopa amrywiol. Wedi diwrnod llawn, cychwynnodd y bws yn ôl am Waunfawr gyda'r teithwyr yn eithaf swrth a wrth eu bodd.

Trefnwyd yr ymweliad - a oedd yn rhan o ddau ddiwrnod o hyfforddiant yn y brifddinas - ar y cyd rhwng Ken Brassil, Swyddog Addysg Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Sioned Hughes, Amgueddfa Werin Sain Ffagan a Dafydd Arfon Jones, Swyddog Addysg Antur Waunfawr.

Mae wedi bod yn fis prysur i'w Antur - gan eu bod hefyd wedi cael gwahoddiad i fynd i 10 Downing Street, ar gyfer derbyniad gyda Tony Blair ar ddatblygiad cynaladwy.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy