BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Dafydd Du a'r hogia Tri Beiciwr
Medi 2008

Sul, 10 Awst. O Gwm-y-Glo a Llanrug i Gaerdydd Wedi'r ymarfer caled ers wythnosau bellach, wele fe ddaeth yr awr fawr!

Yn fuan bore Sul, llwythwyd ein beiciau a'n bagiau trymion i'r bws mini a chyda Bob, ewythr i Keith yn gyrru, i ffwrdd a ni am y Ddinas Fawr.

Bu'r daith i lawr yr A470 yn rhwydd, ac am 2.00 o'r gloch roedd croeso twymgalon yn ein disgwyl gan Nicky Steiner, Rheolwraig Gwesty'r Royal, Stryd Santes Fair, Caerdydd.

Parciwyd ein beiciau yn ddiogel yn seler y gwesty a gyda'r nos cawsom bryd blasus di-dâl yn y Mochyn Du. Gwely cynnar amdani ac felly yn ôl i'r gwesty moethus i drio cysgu.

Llun, 11 Awst. 0 Gaerdydd i Aberhonddu.

Cododd y tri ohonom yn blygeiniol yn llawn cyffro a chael brecwast gwerth chweil i'n cynnal ar yr antur fawr.

Roedd carped coch wedi'i daenu wrth ddrws y gwesty a theimlem ein bod yn y Gemau Olympaidd. Diolch i Sioned Mair, Llanrug, a Bethan, cariad Joni - a'i chi - am ddod i ddymuno'n dda i ni.

Roeddem yn ymfalchio mai un arall o Fro'r Eco oedd yn ein cychwyn, sef Dafydd Du. Diolch, Dafydd, am y geiriau caredig ac am roi cychwyn gobeithiol i ni.

Rownd y tro gyda'i feicroffon roedd Jonsi a bu Dylan yn egluro pwrpas y daith iddo ac yn talu diolchiadau i lu o ffrindiau.

Ar y trac beicio a ni a dyma ddechrau gofidiau! Roedd y llwybr yn fwdlyd a garw wedi'r glaw trwm ac wir, dyma Keith a finnau'n 'dechrau simsanu braidd, a rhyw ysictod fel petai'n dod drosom ni'. le, dyna fo puncture gan nodwyddau pigog y coed pin!

Ffonio mam a dad oedd yn ein dilyn yn y motorhome; yn cario ein bagiau ac yn sicrhau ein bod yn cael digon i'w yfed a bwyta'n brydlon.

Buan iawn y cawsom hyd i siop fawr beiciau ym Merthyr a chael trwsio'r beiciau.

Erbyn hyn roedd hi'n bwrw glaw yn sobor iawn a dyna fore o'n blaenau - y dringo mawr, sef y Bannau.

Roeddent yn hynod o hardd ond:
'O pam, Arglwydd, y gwnaethost
y Bannau môr serth?!'
A choesau'r tri beiciwr heb nerth.

Ond roedd yn braf cael stecian ennyd ar y top a chael torri syched cyn gwibio i lawr a'n trwynau am Aberhonddu hynafol.

Cawsom groeso mawr gan Sue Hughes, rheolwraig Gwesty'r Castell a chyfle i ymgeleddu a chael gorffwys.

Wedi pryd o fwyd amheuthun, gwely cynnar a chysgu fel top wedi taith o 60 milltir,

'Na, ni fu dwthwn
fel y dwthwn hwn.'

12 Awst. O Aberhonddu i Lanidloes

Codi'n fore, agor y llenni - GLAW! 'Glorious Twelfth' wir!

Brecwast mawr eto heddiw a'n diolch yn fawr i staff y gwesty.

Allan i'r glaw trwm a bu'n rhaid stopio i fochel gan nad oeddem yn gweld dim!

Wedi reidio caled, seibiant yn Llanelwedd ac yna ymlaen am Rhaeadr.

Roedd mam a dad yn mynnu ein bod yn cael pryd o fwyd poeth yn y Lamb - roeddem ar ein cythlwng ac roedd y cyri yn ffantastig!

Dylan oedd y cyntaf i gyrraedd y Llew Coch yn Llanidloes, gan fod Keith a finnau wedi mynd i ben draw y ffordd osgoi - doedd dim diwedd ar frolio Dylan!

Sôn am groeso tywysogaidd gan Geoff ac Elaine Hawkins. Cawsom gyfle i gael bath poeth i lacio'r croen tyn, gorffwys a phryd o fwyd da. Gwely cynnar i'r hogia wedi taith hirfaith o 60 milltir.

13 Awst. O Lanidloes i Lanbedr

Roeddem wedi codi'n gynnar a chael clamp o frecwast mawr. Edrych drwy'r ffenest - glaw 'eto'!

Roedd y glaw yn chwipio'n cefnau ac roeddem mor falch o gael eistedd yng nghynhesrwydd y caffi a chael pryd ysgafn poeth a ffonio adref. Roedd mam wedi gwirioni efo'r lle - ond chafodd hi ddim siopa yno chwaith!

Roeddem yn teimlo ein bod ar ein ffordd adref erbyn hyn a, chyda hyder, fe aethom i Dywyn, yna Fairbourne gan groesi Afon Mawddach ar y bont drenau, ac i'r Bermo. Heb gymryd seibiant ymlaen a ni i Lanbedr a chroeso Cymreig yn ein disgwyl gan Jean a Gemma yn Nhafarn y Fictoria. Daeth Lisa a mam a dad am bryd o fwyd atom gyda'r nos a threulio noson o rannu profiadau a llond bol o chwerthin. Yna noswylio wedi taith o 76 milltir.

14 Awst. 0 Lanbedr i Gaernarfon

Codi am 9.00, edrych drwy'r ffenest - methu coelio'n llygaid - haul, o'r diwedd.

Roeddem wedi cytuno cyfarfod mam a dad, a Gwyn, y dyn camera, wrth Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth, ond, och a gwae i mam! Roedd hi'n ddiwrnod marchnad a doedd dim modd cael lle i barcio.

Felly, i osgoi Dinas Mawddwy, anelu am Aberdyfi (nid Aberteifi, Keith).

Wedi brecwas mawr a diolch o waelod calon am y croeso, am Harlech â ni.

Yna dros y bont i Benrhyndeudraeth, ar hyd y trac beicio dros y Cob ac anelu am Pen Nionyn, Y Groeslon

Cyrraedd y Groeslon o gwmpas 1.00 o'r gloch a chael croseo mawr.

Roeddem i fod i gyrraedd Caernarfon am 4.30, felly doedd dim amdani ond chwarae pŵl am deirawr ac yfed oren a phepsi!

Erbyn 4.00 roeddem yn llawn gwynt ac yn dyheu am orffen y daith hirfaith.

Felly, 'teg edrych tuag adref' ac i ffwrdd a ni llwybr beicio am Gaernarfon.

Roedd ein calonnau'n curo wrth ddod rownd y tro am Yr Harbwr a'r wefr o weld y dyrfa fawr yno i'n croesawu yn fythgofiadwy.

Diolch i Bryn Fôn am ein croesawu môr wresog. Diolch newyddiadurwyr, i reolwr yr Harbwr, ac i Haf, a diolch arbennig i Magi o Benygroes am sicrhau lle i ni aros ar hyd y daith ac am y ffonio cyson.

Diolch hefyd i Gwyn, y gŵr camera sydd wedi ffilmio'r daith yr holl ffordd o Gaerdydd i Gaernarfon. Bydd yr hanes i'w weld ar y rhaglen Hacio yn ystod yr Hydref.

I chwi, yn deulu a ffrindiau, diolch am eich haelioni tuag at ein helusennau Ymchwil Cancr Ysbyty Christie's, Ymchwil Clic Ysbty Gwynedd ac Ymchwil yr Arennau Ysbyty Gwynedd.

Rydym eisoes, rhyngom, wedi codi o gwmpas £7,000.

Bydd y noddi yn cau ddiwedd Medi. Diolch o galon i bawb.

Gall y tri ohonom ymfalchïo ein bod wedi ymdrechu yn deg fel gwerthfawrogiad i'n llawfeddygon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy