BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
T.N.T. gyda Haf, Shauna, Iola, Anthea a Maria. Ysgol Gynradd Llanrug
Mehefin 2003
Er bod sesiynau ffurfiol Rygarug wedi dod i ben am y flwyddyn academaidd bresennol mae'r aelodau wedi bod yn brysur iawn dros y mis diwethaf.
Bu'r Côr a'r Dawnswyr yn cymryd rhan yng Ngwyl Fai Antur Waunfawr ar 5 Mai. Daeth torf dda i'r Antur i gefnogi'r Wyl arbennig hon ac wrth lwc fe ddaeth yr haul allan! Perfformiwyd caneuon newydd ynghyd â hen ffefrynnau o'r sioe Digon Teg gyda chymorth John Eifion ac Elfed Morris diolch iddynt ill dau am ein cefnogi.

Ar 7fed o Fai cafwyd gwledd o adloniant yn Ysgol Gynradd Llanrug gan Martin John a'r grwpiau Dynamic a TNT. Bu'r aelodau yn brysur yn dawnsio, canu a chasglu llofnodion y sêr.

Cafwyd Bingo hynod o lwyddiannus yn Ysgol Gymuned Penisarwaun ar nos Fercher, 14eg Mai. Diolch i'r aelodau ac i drigolion Penisarwaun am gefnogi a diolch mawr i Anti Janet am alw'r Bingo mor broffesiynol ac i'r Jocars am dynnu coes!

Nos Iau 15fed Mai gwelwyd aelodau di-flino Rygarug ac eraill yn Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen ar gyfer Noson o Ddawns a Disgo. Cafwyd perfformiadau gan Rachel Ward, Dawnswyr Deiniolen ac unwaith eto aelodau'r sesiynau Drama a fu'n diddanu'r gynulleidfa gyda'u jocs. Bu Cwmni Da yn ffilmio'r noson ar gyfer cyfres o 6 rhaglen deledu ar Ddeiniolen. Diolch i Tecwyn Jones am ddarparu'r disgo ac i drigolion Deiniolen am noson werth chweil!

Fel y gwelwch mae bywyd aelod Rygarug yn un prysur dros ben. Mae Rygarug wedi cael blwyddyn gyffrous a hynod o lwyddiannus. Diolch i bawb am gefnogi ac yn arbennig diolch i'r holl diwtoriaid am rannu eu gallu, eu hamynedd a'u hamser.

Ac i gloi dymuniadau gorau i'r Grwp Stepio a fydd yn teithio i Eisteddfod yr Urdd Tawe, Nedd ac Afan i gystadlu ar 31 Mai.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy