BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Eco'r Wyddfa
Gwyrfai - gyrrwr tren Canu clodydd Band Llanrug
22 Rhagfyr 2002
Dyma beth sydd gan rai o aelodau eraill y band i'w ddweud:





Gwyrfai Williams - un o yrwyr Tren Bach Yr Wyddfa wrth ei waith bob dydd ac yn aelod o'r band ers yn wyth oed:
"Mi fedri di werthfawrogi ar ôl bod ddiwrnod cyfa, wyth, naw, deg awr, mewn swn fel hyn - gwrando ar gerddoriaeth, does na ddim byd i'w guro fo! Mae'n nefoedd cael mynd i'r bandrwm i chwarae."

"Mae fatha teulu (y band). Dwi ddim yn meddwl neith neb fy nhynnu i o'na."

"Mae'r band fel cymdeithas. Mae'r band yn dy helpu di trwy broblemau. Mae'r band wedi bod yn dda ofnadwy i mi."

"Mi fyddan ni'n mynd am beint bach ar ôl practis. Da ni'n cael sgwrs iawn - siarad am y band rydan ni rhan fwya; da ni'n band-a-holics os oes na ffasiwn air. Ond rydan ni'n cael pleser mawr ohono fo - siarad a planio . . . a dyna be dwi'n lecio amdano fo, mae na rywbeth i wneud o hyd."

"Os oes na ddigon o amser - fatha gaea rwan - jyst codi'r corn i fyny am awr neu ddwy. Pasio'r amser yn neis."

Alun, cyn blismon ac ysgrifennydd trafnidiaeth:
"Ar y dechrau, rhyw fath o flute band oedd o . . . wedyn. ganol 1834, grant gan Arglwydd Penrhyn i brynu curn newydd."

"Wrth gwrs roedd cael mynd i'r band gyda'r nos, roedd rhywun yn anghofio pob dim am y gwaith am rhyw awr neu ddwy. Doed dim dwywaith iddo fod yn help dros y blynyddoedd, tynnu stres wrth i rywun anghofio efo'r offeryn."

Merfyn:
"Dwi'n meddwl fod y dyfodol yn glir. Os bydd Gavin yn dal efo ni, dwi'n gweld ni'n mynd reit uchel. Reit uchel."

"Mae o'n (Gavin) gwybod pwy sy'n practeisio a phwy sydd ddim."

"Mae hi (y wraig) wedi priodi'i mewn i'r peth. Pan briodais i roeddwn i yn y band. 35 years yn ôl. A dwi'n dal i fynd ddwy, dair, gwaith yr wythnos. Na dydi'm yn meindio o gwbwl. Fydd hi'n dwad efo ni weithiau.

I brif ddalen y band


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy